Gwenda Thomas
Mae Llywodraeth Cymru wedi diystyru  gwahardd rhieni rhag taro plant  am y tro – a hynny er gwaetha’r ffaith bod mwyafrif Aelodau’r Cynulliad Cenedlaethol wedi pleidleisio o blaid yr egwyddor.

Roedd 24 ACau wedi pleidleisio o blaid cynnig fyddai’n atal rhieni rhag defnyddio “cosb gyfreithlon” fel yr amddiffyniad dros daro eu plentyn, a 15 wedi pleidleisio yn erbyn y cynnig.

Ond roedd Gwenda Thomas, y gweinidog sydd â chyfrifoldeb am ofal plant, yn mynnu bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i atal cosbi plant yn gorfforol ond dywedodd bod angen pwyso a mesur y ddeddfwriaeth newydd yn ofalus.

Dywedodd y byddai’n anhebyg  y byddai gwaharddiad o’r fath yn cael ei gyflwyno cyn 2016 ond ei bod hi yn cadw’r opsiwn i ddeddfu yn y dyfodol.

Daeth ei sylwadau yn ystod dadl yn y Senedd ynglŷn a newid y ddeddfwriaeth ar ôl i grŵp alm-bleidiol gynnig y newid.

Ond roedd y rhai hynny oedd yn erbyn y cynnig yn dadlau y dylai rhieni gael yr hawl i daro eu plant er mwyn eu disgyblu ac y byddai gwaharddiad “yn gwneud rhieni yn droseddwyr.”