Mae cyn-filwyr yn cael eu hannog i fanteisio ar gynllun gofal iechyd yng Nghymru – yr unig becyn cymorth o’i fath yng ngwledydd Prydain.

Mae Llywodraeth Cymru’n ymrwymo i gynnig blaenoriaeth o ran mynediad i wasanaethau i oddeutu 149,000 o gyn-filwyr sy’n byw yn y wlad er mwyn sicrhau eu bod nhw’n derbyn y gofal a’r gefnogaeth sydd eu hangen arnyn nhw.

Mae’r gofal yn canolbwyntio’n arbennig ar anghenion iechyd meddwl ac unrhyw broblemau iechyd sy’n deillio o’u cyfnod yn gwasanaethu’r lluoedd arfog.

Mae Llywodraeth Cymru eisoes yn cynnig cymorth trwy’r Llwybr Tai Cenedlaethol i gefnogi cyn-filwyr sydd mewn perygl o golli eu cartrefi, ac maen nhw eisoes wedi neilltuo £250,000 ar gyfer cynllun addysg i blant y lluoedd arfog.

Fe fu Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd, yn Wrecsam ar Sul y Cofio wrth i’r cynllun diweddaraf gael ei gyhoeddi.

Addewidion

Mae’r Blaid Lafur Brydeinig hefyd wedi cyhoeddi cyfres o addewidion i gyn-filwyr yn eu maniffesto ar drothwy’r etholiad cyffredinol ar Ragfyr 12, a’r rheiny’n cynnwys:

  • cyflog teg, gan ddileu’r cap ar gyflogau’r sector cyhoeddus sydd wedi arwain at ostyngiad o 5.8% mewn cyflogau go iawn
    • tai digonol, gan roi terfyn ar ddibyniaeth cyn-filwyr ar y sector rhentu preifat
    • rhoi llais i filwyr trwy greu corff penodol tebyg i Ffederasiwn yr Heddlu
    • rhoi’r gorau i breifateiddio, gan gynnal adolygiad gyda’r bwriad o gadwgwasanaethau yn y sector cyhoeddus
    • cefnogaeth i blant y lluoedd arfog, gan gynnwys mynediad i addysg a chymorth wrth symud ysgolion yn rheolaidd

“Pan fo gofyn i ddynion a menywod ein lluoedd arfog wasanaethu, maen nhw’n gwneud hynny â dewrder ac ymroddiad di-wyro, a byth yn oedi cyn rhoi anghenion y wlad yn gyntaf,” meddai Vaughan Gething.

“Mae Llywodraeth Lafur Cymru’n ymrwymo i Gyfamod y Lluoedd Arfog sy’n cydnabod fod gan y genedl gyfan ddyletswydd i aelodau’r lluoedd arfog a’u teuluoedd, ac mae’n nodi sut y dylen nhw ddisgwyl cael eu trin.

“Mae hyn yn sicrhau bod y dynion a menywod sy’n gwasanaethu pan fo angen arnom, yn derbyn y gefnogaeth sydd ei hangen arnyn nhw a’u teuluoedd pan fo angen arnyn nhw, a bod hynny’n rhan o’n hymrwymiad ni iddyn nhw.”