Mae rhannau o Gymru o dan haen o eira wrth i’r glaw droi’n eira ar dir uwch ar ôl noson oeraf yr hydref hyd yma.

Mae ffordd Bwlch yr Oernant ger Llangollen wedi cau, ac mae’r heddlu’n rhybuddio gyrwyr i fod ar eu gwyliadwriaeth ar Fwlch Oerddrws ger Dinas Mawddwy hefyd.

Mae eira ar Fwlch Llanberis, a Bwlch Gorddinan yn Eryri, a hefyd yn y Trallwng a rhannau eraill o’r canolbarth.

Dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Dywydd mai ar dir uwch y bydd y rhan fwyaf o’r eira’n disgyn ac nad oedd yn disgwyl iddo aros yn hir nac achosi llawer o broblemau.

Mae disgwyl i eira ddisgyn yn Cumbria yng ngogledd-orllewin Lloegr ac yn ne-orllewin yr Alban hefyd.