Mae Dirprwy Arweinydd y Blaid Lafur yng Nghymru dan y lach am ddweud y byddai hi’n pleidleisio dros gytundeb Brexit Llafur mewn refferendwm.

Dywedodd Carolyn Harris wrth ITV Cymru: “Yn amlwg mi fyddwn i’n pleidleisio dros gytundeb [Brexit] Keir Starmer.”

Mae Carolyn Harris wedi gwrthwynebu sawl cais i gynnal ail refferendwm yn ystod pleidleisiau yn y Senedd.

Bu cwynion nad ydy safbwynt y Blaid Lafur ar Brexit yn glir.

Mae yn debyg eu bod nhw o blaid taro bargen i adael yr Undeb Ewropeaidd, yna cynnal refferendwm ar y fargen honno – ond gydag ‘aros’ yn rhan o’r dewis.

Ac mae hi’n bosib y byddai Llafur yn ymgyrchu mewn refferendwm tros ‘aros’, ac felly yn erbyn eu cytundeb Brexit eu hunain.

“Methu ymddiried yn Llafur ar Brexit”

Yn trafod sylwadau diweddaraf Carolyn Harris, dywedodd llefarydd Brexit Plaid Cymru, Hywel Williams, fod hyn yn “enghraifft arall i’w ychwanegu at restr hir o resymau pan eich bod chi methu ymddiried yn Llafur pan mae’n dod i Brexit.”