Mae Plaid Cymru wedi cadarnhau ei bod wedi taro bargen etholiadol â’r Democratiaid Rhyddfrydol a’r Gwyrddion.

Fydd y ddwy blaid arall ddim yn cystadlu yn erbyn Plaid Cymru yn Dwyfor Meirionnydd; Arfon; Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr; Ynys Môn, Caerffili; Pontypridd; a Llanelli.

O’r tair plaid, dim ond y Democratiaid Rhyddfrydol bydd yn sefyll yn Sir Drefaldwyn, Brycheiniog a Sir Faesyfed, a Chanol Caerdydd.

Ac mi fydd Plaid Cymru a’r Democratiaid Rhyddfrydol yn camu o’r neilltu ym Mro Morgannwg gan roi cyfle i’r Gwyrddion.

Daw hyn yn sgil isetholiad Brycheiniog a Sir Faesyfed ym mis Awst, lle enillodd ymgeisydd y Democratiaid Rhyddfrydol wedi i’r ddwy blaid arall gamu i lawr.

“Gwleidyddiaeth aeddfed”

Mae Adam Price, Arweinydd Plaid Cymru, wedi croesawu’r cytundeb gan ddweud ei fod yn “cynrychioli gwleidyddiaeth aeddfed”.

“Ar ôl misoedd o drafod dw i’n falch ein bod wedi dod i gytundeb,” meddai. “Doedd Plaid Cymru ddim eisiau i’r etholiad yma gael ei gynnal – nid dyma’r ffordd o ddatrys yr argyfwng Brexit.

“Ond mae’r etholiad yn rhoi cyfle i nifer fawr o Aelodau Seneddol – sy’n cefnogi aros – i gipio seddi. Gall Aelodau Seneddol Plaid Cymru ennill y nifer uchaf erioed.”

Brwydro Brexit

Mae Jane Dodds, Arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, hefyd wedi rhoi croeso cynnes i’r cytundeb.

“Yn ystod isetholiad Brycheiniog a Sir Faesyfed wnaethom ddangos beth mae modd ei wireddu pan mae pleidiau yn gosod eu gwahaniaethau i’r naill ochr…” meddai.

“Mae’r ymdrech trawsbleidiol hanesyddol yma yn rhoi’r cyfle gorau i fwy o Aelodau Seneddol – sy’n cefnogi aros – i barhau â’r frwydr yn erbyn Brexit.”