Mae golwg360 yn deall y bydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn tynnu’n ôl o ymladd pedair sedd bresennol Plaid Cymru yn yr etholiad cyffredinol ar Ragfyr 12 – a hynny fel rhan o’r cytundeb i rwystro pleidiau sydd o blaid Brexit rhag ennill seddi.

Bydd manylion y cytundeb, sy’n debygol o gynnwys rhwng 60 a 70 o etholaethau ledled gwledydd Prydain, yn cael eu cyhoeddi mewn cyhadledd i’r wasg yn ddiweddarach heddiw (dydd Iau, Tachwedd 7).

Mae’n debyg y bydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn sefyll i lawr yn seddi Arfon (sedd ymylol iawn Hywel Williams), Ynys Môn (sedd Lafur dan Albert Owen, a sedd darged i Blaid Cymru), Dwyfor-Meirionnydd (sedd Liz Saville Roberts) a Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr (sedd Jonathan Edwards).

Mae disgwyl hefyd y bydd Plaid Cymru yn sefyll i lawr mewn seddi fel Canol Caerdydd (sedd Jo Stevens, Llafur); Sir Drefaldwyn (sedd Geidwadol gyda’r deilydd, Glyn Davies, wedi ymddeol); a Brycheiniog-Maesyfed (sedd Chris Davies, Ceidwadwr, ers 2015).