Mae Heddlu Dyfed-Powys yn apelio am wybodaeth er mwyn ceisio dod o hyd i ddau geffyl sydd wedi cael eu dwyn.

Fe gafodd yr anifeiliaid eu riportio ar goll rywbryd rhwng dydd Mawrth (Hydref 22) a dydd Mercher (Hydref 23) o gaeau ger Reynalton yn Sir Benfro.

Mae’r heddlu’n gofyn i unrhyw un a allai fod wedi gweld cerbydau neu unigolion dieithr yn yr ardal rhwng Cilgeti a Dinbych-y-pysgod, i gysylltu.