Mae cynghorydd Llafur o ardal Caernarfon yn honni y byddai’n “curo Hywel Williams, dim problem” pe bai ganddo’r hawl i ymladd am sedd Arfon yn San Steffan yn etholiad Rhagfyr 12.

Ond polisi Llafur yw mai merched yn unig sy’n cael bod yn ymgeiswyr yn y sedd benodol honno – er nad yw’r blaid wedi bod ag aelod seneddol yn yr etholaeth ers 1974.

Mae’r Blaid Lafur yn chwilio am ymgeisydd newydd yn dilyn penderfyniad Mary Griffiths Clarke i gamu o’r neilltu ar ôl ennill yr enwebiad, “a hynny am resymau iechyd a phroffesiynol”.

Mae Siôn Jones yn credu mai fo fyddai â’r siawns orau o gipio’r sedd i Lafur.

“Dw i wedi siarad hefo dirprwy ysgrifennydd Llafur Cymru echdoe yn nodi fy siom efo’r penderfyniad, a ’mod i’n barod i fynd,” meddai wrth golwg360. “Dw i’n barod efo’r baneri, dw i’n barod efo pob peth i redeg yr etholiad…

“Dw i’n fodlon talu am y pamffledi fy hun, a hefyd y deposit.

“Ond yn amlwg mae’r Blaid Lafur yn dal yn meddwl bod o’n ddoeth i ddewis merch er bod yna ddim cynghorydd sir arall ar wahân i fi ar y cyngor.

“Dw i’n credu mai fi sydd efo’r cyfle gorau i ennill y sedd yma i Lafur. Mi wnes i godi’r bledlais yn sylweddol yn etholiad y Cynulliad yn Arfon.

“Ro’n i wedi codi’r bleidlais 8% lle’r oedd Llafur i lawr 14% yng Nghymru, ac mae hynny efo turnout 20% yn llai na be’ mae San Steffan yn ei gael.”

Sedd ymylol

92 o bleidleisiau yn unig oedd ynddi rhwng Plaid Cymru a Llafur yn yr etholiad diwethaf.

Mae sawl rheswm am hynny, yn ôl Siôn Jones, sy’n dadlau bod y sefyllfa wedi newid yn yr etholaeth erbyn hyn.

“Mae hynny i lawr i bleidleisiau myfyrwyr ym Mangor ac yn amlwg y ‘Corbyn factor’ a ballu,” meddai. “Ond rŵan mae’n gêm wahanol.

“Rydan ni angen ymgeisydd sy’n adnabyddus yn lleol ac sy’n gallu denu pleidleisiau o bob man.”

Ymateb Llafur Cymru i Siôn Jones

Dywed Siôn Jones, sy’n cynrychioli ward Bethel ger Caernarfon ar Gyngor Gwynedd, fod dirprwy ysgrifennydd Llafur Cymru’n dweud mai penderfyniad aelodau’r Pwyllgor Gwaith Cenedlaethol yw’r polisi merched-yn-unig.

Ond mae’n dadlau nad yw’r polisi hwnnw’n berthnasol yn yr achos yma.

“Wnes i ymateb drwy ddeud nad ydan ni ddim wedi ennill y sedd yma ers 1974. Dw i’n dallt mai polisi Llafur ydi os oes gynnoch chi aelod seneddol Llafur cyfredol a’i fod o’n sefyll lawr, merch wedyn fyddai’n cael yr enwebiad…

“Ond nid dyma ydi’r achos yn Arfon. Dydan ni ddim wedi cael aelod seneddol Llafur yma ers 1974, felly dydi’r polisi yma ddim yn
cyfri yn y sedd yma.”