Mae dyn o Donypandy wedi cael ei anfon i garchar am gicio a lladd gwylan.

Fe ymddangosodd Andrew Lee Jones gerbron Llys Ynadon Merthyr Tudful, wedi pledio’n euog i’r drosedd ddiwedd mis Hydref.

Roedd wedi cyfaddef iddo, ar Fai 1 eleni, ladd gwylan yn fwriadol ar Stryd Winton, Tonypandy.

Roedd lluniau teledu cylch-cyfyng yn ei ddangos yn sathru ac yn cicio’r aderyn. Fe gafodd ymchwiliad ei agor gan elusen yr RSPCA ym mis Mehefin.

Mae Andrew Lee Jones wedi’i ddedfrydu i 12 wythnos o garchar.