Mae’r heddlu’n apelio am wybodaeth ar ôl i feiciwr modur farw mewn gwrthdrawiad â char yn Sir Frycheiniog.

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar ffordd A4215 rhwng Libanus a Defynnog brynhawn ddoe (dydd Sul, Tachwedd 3).

Cafodd gyrrwr y beic modur anafiadau difrifol, ac fe fu farw yn y fan a’r lle.

Chafodd gyrrwr na theithiwr y car mo’u hanafu.

Bu’n rhaid cau’r ffordd am nifer o oriau er mwyn cynnal ymchwiliad.