Mae pwysau ar y Ceidwadwyr i wahardd eu hymgeisydd seneddol yn etholaeth Gŵyr yn sgil sylwadau amheus yn y gorffennol am bobol sy’n hawlio budd-daliadau.

Yn Ionawr 2014, dywedodd Francesca O’Brien ar ei thudalen Facebook fod angen i’r fath bobol “gael eu difa”.

Ar y pryd, roedd hi’n gwylio’r rhaglen deledu Benefits Street ac yn ymateb i sylwadau gan ffrind fel rhan o sgwrs am y rhaglen, gan ddweud bod y bobol yn y rhaglen yn gwneud i’w “gwaed ferwi”.

Mae hi wedi ymddiheuro ar ôl i’r sylwadau ddod i’r amlwg, ond mae Llafur yn dweud y dylid ei gwahardd hi ynghylch ei sylwadau “hollol ffiaidd”, sydd bellach wedi cael eu dileu ond sydd wedi’u hadrodd gan y wasg.

Dyw hi ddim yn debygol y bydd y Ceidwadwyr yn ei symud hi o’r ras i ennill y sedd ymylol yn yr etholiad cyffredinol ar Ragfyr 12.

Datganiad

“Cafodd y sylwadau hyn eu gwneud ar fympwy, nifer o flynyddoedd yn ôl,” meddai Francesca O’Brien mewn datganiad.

“Fodd bynnag, rwy’n derbyn fod fy nefnydd o iaith yn annerbyniol a hoffwn ymddiheuro am unrhyw niwed dw i wedi’i achosi.”

Yn 2017, yr ymgeisyd Llafur Tonia Antoniazzi enillodd y sedd gyda 22,727 o bleidleisiau, sef 3,269 o bledleisiau’n fwy na’r Ceidwadwyr.

Mae Llafur wedi beirniadu ei sylwadau.

“Mae hyn yn hollol ffiaidd ac yn datgelu’r creulondeb wrth galon toriadau’r Torïaid i fudd-daliadau,” meddai Angela Rayner, llefarydd addysg y blaid.

“Cafodd Credyd Unffurf ei gynllunio’n fwriadol i gosbi pobol sydd allan o waith.

“Mae nifer ohonom wedi dibynnu ar gefnogaeth cymorth cymdeithasol ar ryw adeg yn ein bywydau ac nid i’w rhywbeth i gywilyddio yn ei gylch.

“Dydy’r person hwn ddim yn ffit i fod yn aelod seneddol, a dylai Boris Johnson ei gwahardd hi rhag bod yn ymgeisydd.”