Mae teyrngedau wedi’u rhoi i’r cynhyrchydd a chyfarwyddwr ffilm, Paul Turner, sydd wedi marw’n 73 oed.

Mae’n fwyaf adnabyddus am gyfarwyddo’r ffilm Hedd Wyn, y ffilm Gymraeg gyntaf erioed i gael enwebiad ar gyfer Oscar, a hynny yng nghategori’r ffilm iaith dramor orau.

Ymhlith ei weithiau amlwg eraill mae The Life and Times of David Lloyd George a Porc Pei, a gafodd ei throi’n gyfres deledu i S4C.

Yn enedigol o Gernyw, aeth ati i ddysgu’r Gymraeg yn gweithio i’r BBC.

‘Cyfraniad aruthrol’

“Roedd cyfraniad Paul Turner i ffilm a theledu Cymru yn aruthrol, ac yntau wrth galon llawer o ddramâu llwyddiannus S4C yn y dyddiau cynnar,” meddai Amanda Rees, Comisiynydd Cynnwys S4C.

“Rydym yn cofio yn arbennig am y ffilm Hedd Wyn a sut lwyddodd Paul i roi Cymru ar lwyfan y byd drwy adrodd stori unigryw Gymreig ond efo adlais rhyngwladol.

“Byddwn yn cofio amdano fel gŵr a gweledigaeth a thân yn ei fol dros Gymru a’r Gymraeg a’r ysfa i ddarlunio hynny ar ffilm.”

Teyrngedau eraill

Mae nifer o deyrngedau wedi’u rhoi ar y cyfryngau cymdeithasol.