Mae sylwebydd rygbi o Loegr wedi beirniadu sylwadau “deifiol” y Cymry am dîm Lloegr yn dilyn gêm derfynol Cwpan y Byd yn Japan.

Cafodd y Saeson eu trechu o 32-12 gan Dde Affrica, a gododd y gwpan am y trydydd tro ddoe (dydd Sadwrn, Tachwedd 3).

Tra bod nifer o Gymry’n dweud ar y cyfryngau cymdeithasol eu bod yn dymuno’n dda i Loegr, ac eraill yn dweud eu bod nhw’n eu cefnogi yn y gêm, roedd eraill yn gwbl sicr eu barn na fydden nhw fyth am gefnogi’r Saeson.

Ond mae hynny wedi corddi David Flatman, sylwebydd ITV.

Neges

“Un peth trist,” meddai yn ei frawddeg agoriadol ar Twitter.

“Mae llawer o Saeson yn treulio Cwpan y Byd yn cefnogi’r Cymry.

“Rydym yn caru Gats [Warren Gatland], AWJ [Alun Wyn Jones] ac yn y blaen.

“Yna mae Lloegr yn colli gêm roedd y rhan fwyaf ohonom yn meddwl y bydden nhw’n ei hennill ar ôl bod yn rhagorol yr wythnos ddiwethaf, ac mae sylwadau deifiol y Cymry’n ddiddiwedd.

“Trueni mewn gwirionedd, ac ychydig yn blentynnaidd.”

Mae’r neges wedi cael ei hail-drydar dros 700 o weithiau ac wedi’i hoffi bron i 9,000 o weithiau, gyda channoedd o bobol yn gwneud sylwadau’n cefnogi neu’n wfftio’r sylwebydd.