Mae deiseb wedi ei sefydlu i wrthwynebu cerflun yng nghastell y Fflint fyddai’n rhan o broject i adfywio’r ardal sy’n gobeithio bod yn “hwb” cymunedol.

Mae’r cerflun yn cael ei greu gan gerflunydd o Fryste, Rich White wedi iddo ennill cytundeb gwerth £62,500 i’w greu.

Daw hyn ddwy flynedd wedi i’r bwriad i gael cerflun tebyg yng Nghastell y Fflint gael ei roi i’r neilltu, yn dilyn gwrthwynebiad ffyrnig gan Gymry oedd yn cyhuddo Cadw o ddathlu concwest y Cymry…

“Pobol o dde Cymru” wedi “gorymateb yn llwyr” i’r Cylch Haearn

Roedd y cylch wedi’i enwi ar ôl cyfres o gestyll a gafodd eu hadeiladu gan y brenin Edward y Cyntaf i ormesu’r Cymry,  ond bu’n rhaid gohirio’r cynllun yn sgil ymateb y cyhoedd.

Mae cryn dipyn o ymateb wedi bod i’r bwriad i gael cerflun ar wefan Trydar:

Mae golwg360 wedi gofyn i Cadw a Llywodraeth Cymru am sylw.