Mae Prifysgol Aberystwyth “ar fin” penodi Athro i’r Adran Gymraeg.

Aeth swydd Athro (professor) yn Adran y Gymraeg heb ei llenwi ers 2008, a bu ofnau bod hynny wedi niweidio gallu’r adran i ddenu myfyrwyr.

Yn ddiweddar roedd y brifysgol yn hysbysebu wyth o swyddi recriwtio a denu myfyrwyr ar gyflogau rhwng £28,000 a £59,000.

Mi wnaeth yr hysbyseb ailgodi’r cwynion am fethiant y Brifysgol i benodi Athro i’r Adran Gymraeg.

Gruffydd Aled Williams oedd Athro ola’r Gymraeg yn Aberystwyth, a hynny rhwng 1995 a 2008, ac mae yn credu ei bod yn “hen bryd” cael un arall.

Pan mae academydd yn cael ei benodi yn Athro mae yn cael Cadair.

“Does yna’r un Gadair wedi bod yn Adran y Gymraeg, sydd yn ei gwneud hi yn un o’r ychydig prin o adrannau ym Mhrifysgol Aberystwyth sydd heb Gadair o unrhyw fath ynddi hi,” meddai Gruffydd Aled Williams.

“Ac wrth gwrs, mae hynny yn adlewyrchu yn y pen draw ar y bri mae’r brifysgol yn ei roi ar astudio’r Gymraeg fel disgyblaeth academaidd.

“Arbennig o anffodus”

“Lle mae pethau yn arbennig o anffodus,” ychwanega Gruffydd Aled Williams, “ydy bod yna’r un Gadair y Gymraeg yn Aberystwyth, ond mae yna bum Cadair yn yr Adran Gymraeg ym Mangor…

“Mae o’n cymharu yn arbennig o wael gyda’r ddarpariaeth ym Mangor…

“Wel, mae hynny yn rhwym o effeithio ar fri a statws yr Adran… yn enwedig pe bae chi yn ddarpar fyfyriwr, ac yn gweld Bangor gyda phump o Athrawon…

“Mae [diffyg Athro a Chadair yn Adran Gymraeg Aberystwyth] yn tanseilio ymdrechion yr adran i ddenu myfyrwyr.”

Mewn ymateb i bryderon Gruffydd Aled Williams, mae Prifysgol Aberystwyth wedi cadarnhau ei bod yn fwriad i lenwi’r Gadair wag.

Dywedodd llefarydd: “Mae’r Brifysgol yn falch o nodi ei bod nawr ar fin hysbysebu am Gadair i Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd.

“Mi fydd y penodiad hwn yn gam pwysig ac yn adeiladu ar fuddsoddiad sylweddol ac arwyddocaol a wneir gan y Brifysgol trwy brosiect Pantycelyn, a’i gwaith yn cynllunio darpariaeth strategol gyda’r Coleg Cymraeg ymysg mentrau eraill.”

Adran y Gymraeg wedi haneru

Mae nifer y darlithwyr yn Adran y Gymraeg wedi haneru o 12 i 6 yn Aberystwyth ers 2014, wrth i’r brifysgol arbed arian drwy beidio llenwi swyddi darlithwyr fu’n ymddeol, a dewis peidio adnewyddu cytundebau staff dros dro.

Mae cylchgrawn Golwg yn deall mai 15 o fyfyrwyr sydd wedi cychwyn ar gwrs gradd yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth eleni – a bod hynny lawr yn arw ar y tua 40 oedd yn astudio’r iaith ddegawd ynghynt.

Mwy am y stori hon yn rhifyn yr wythnos o gylchgrawn Golwg