Mae mudiad iaith yn dweud nad oes ganddo ‘ffydd’ ym mhennaeth y corff sy’n gyfrifol am greu a dilysu cymwysterau yng Nghymru – a hynny am nad yw wedi addo dileu Cymraeg Ail-iaith fel pwnc yn ysgolion y wlad.

Mae’r llywodraeth ym Mae Caerdydd wedi ymrwymo ers 2015 i ddisodli’r pwnc gydag un continwwm o ddysgu Cymraeg ac un cymhwyster Cymraeg i bob disgybl.

Mae Carwyn Jones, Kirsty Williams, Alun Davies a Mark Drakeford i gyd wedi addo gweithredu’r polisi yn dilyn argymhelliad mewn adroddiad yr Athro Sioned Davies ar y mater yn 2013.

Ond, yn dilyn cyfarfod y mis diwethaf gyda Philip Blaker, pennaeth Cymwysterau Cymru, mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn dweud nad oes gyda nhw ‘ffydd’ ynddo.

Llythyr 

Mewn llythyr at Philip Blaker, sy’n byw yn swydd Henffordd, mae Cadeirydd Grŵp Addysg y mudiad, Mabli Siriol, yn egluro pam y mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn poeni am y sefyllfa.

“Ers pedair blynedd mae dileu Cymraeg Ail-iaith wedi bod yn bolisi Llywodraeth, ond ymddengys nad ydych fel corff wedi gwneud dim byd i symud yr agenda ymlaen a gwireddu’r amcan. Yn wir, drwy ddiwygio’r cymhwyster ail iaith presennol yn ystod y cyfnod hwn, rydych chi wedi rhwystro newid go iawn.

“Ond eto, dyma ni, yn 2019, yn gorfod trafod gyda chi y posibilrwydd, a ddim ond y posiblrwydd, y caiff y cysyniad ei ddileu yn 2025 ar y cynharaf. Mae hynny’n groes nid yn unig i argymhellion yr adroddiad ond hefyd i ddymuniad y Llywodraeth fel sydd wedi’i ddatgan droeon.

“Roedd yn hynod siomedig felly eich clywed yn datgan na allech roi sicrwydd i ni y bydd y Gymraeg ymysg y cymwysterau cyntaf i gael ei newid.

“Fan lleiaf, byddem yn disgwyl i chi ddangos parch at argymhellion yr Athro Davies, a ddywedodd fod hwn yn fater brys yn 2013, drwy ddatgan bod y Gymraeg yn mynd i gael ei blaenoriaethu fel cymhwyster i wneud ar y cyfle cynharaf posibl. O’ch sylwadau, mae’n rhaid dweud ei bod yn ymddangos nad ydych chi wedi darllen ei hadroddiad.”