Mae Ffermwyr Ifanc Cymru yn dweud eu bod yn “siomedig iawn” o ddeall na fydd Radio Cymru yn darlledu’n fyw o’u heisteddfod genedlaethol ar ddiwedd mis Tachwedd eleni.

Yr unig gysur, meddai’r trefnwyr, yw bod yna “gynlluniau” i ddarlledu rhan o’r gweithgareddau yn Wrecsam – a bod trafodethau’n parhau i gadarnhau’r manylion hynny.

Fe ddaw hyn wedi i BBC Cymru gadarnhau bod yr arfer o ddarlledu holl weithgareddau llwyfan yr Wyl Cerdd Dant ddim yn digwydd eleni chwaith, ond yn hytrach y bydd rhaglen o ‘bigion’ y digwyddiad yn Llanelli ar Dachwedd 9.

“Ni fydd Radio Cymru yn darlledu’n fyw o’r Eisteddfod yn Wrecsam eleni ac wrth gwrs ‘rydym yn siomedig iawn i glywed hyn,” medai llefarydd ar ran Ffermwyr Ifanc Cymru wrth golwg360.

“Deallwn, fodd bynnag, fod yna gynlluniau i ddarlledu rhan o’r Eisteddfod, ac rydyn ni ar hyn o bryd yn gweithio gyda’r darlledwr i gwblhau’r manylion.”

Ymateb BBC Cymru 

“Eleni bydd BBC Radio Cymru yn adlewyrchu’r Ŵyl Gerdd Dant trwy rhaglen uchafbwyntiau cynwhysfawr,” meddai llefarydd. 

“Byddwn hefyd yn adlewyrchu Eisteddfod y Ffermwyr Ifanc ar ein gwasanaethau.”