Gallai côr meibion a gafodd ei sefydlu 111 o flynyddoedd yn ôl ddod i ben heb aelodau a Chyfarwyddwr Cerdd newydd.

Dyna rybudd Côr Meibion Llandybie ar eu tudalen Facebook, lle maen nhw wedi cyhoeddi hysbyseb ‘brys’.

Mae’r neges yn dweud y gallai’r côr ddod i ben “dros y misoedd nesaf”, ac y byddai hynny’n “ddiwedd cyfnod”.
Maen nhw’n cwrdd bob nos Fawrth yn y Neuadd Henoed.

The choir has served the community and surrounding areas for the last 111 years, and has raised a vast amount of money…

Posted by Cor Meibion Llandybie Male Voice Choir on Wednesday, 30 October 2019

Hanes y côr

Cafodd y côr ei sefydlu yn 1908, yn un o gorau meibion cyntaf Sir Gaerfyrddin. Glöwyr neu weithwyr calchfaen oedd y rhan fwyaf o’r aelodau gwreiddiol.

Maen nhw wedi bod yn llwyddiannus mewn amryw Eisteddfodau ar hyd y blynyddoedd, gan gan gynnwys yr Eisteddfod Genedlaethol, Eisteddfod Aberteifi, Eisteddfod y Glöwyr Porthcawl ac Eisteddfod Pontrhydfendigaid.

Dim ond saith cyfarwyddwr cerdd gafodd y côr erioed, a’r tri chyfarwyddwr cyntaf yn dad a dau fab, sef Evan, Arthur a Curwen Thomas.
Cafodd Curwen Thomas ei olynu gan Ieuan Anthony, gyda’r ferch gyntaf, Indeg Thomas yn ei olynu yntau.

David B Jones oedd y chweched, cyn i Alun Bowen gymryd drosodd yn 2008.

Hysbyseb

“Mae’r côr wedi gwasanaethu’r gymuned a’r ardaloedd cyfagos dros y 111 mlynedd diwethaf, ac wedi codi swm sylweddol o arian at y gymuned ac elusennau lleol,” meddai’r neges.

“Nawr, mae angen brys ar y côr am aelodau newydd, hen ac ifanc, ac mae hefyd angen Cyfarwyddwr Cerdd arnom i arwain y côr.

“Os nad ydyn ni’n cynyddu’n niferoedd dros y misoedd nesaf, bydd angen i’r côr ddod i ben ac fe fyddai’n ddiwedd cyfnod ac yn golled fawr i’r gymuned.”