102,000 o bobol oedd wedi gwrando ar Radio Cymru yn ystod y tri mis diwethaf – y nifer isaf ers yr 101,000 a gofnodwyd yn 2016.

Fe gyhoeddodd corff RAJAR yr ystadegau chwarterol diweddaraf ddydd Iau (Hydref 24).

Daw’r ffigurau diweddaraf yn dilyn cwymp sylweddol o 6,000 yn ystod y tri mis rhwng Gorffennaf, Awst a Medi eleni.

119,000 o wrandawyr oedd gan yr orsaf yn ystod y tri mis cyfatebol y llynedd, ar ôl gweld cynnydd o 7,000.

Erbyn hyn, mae’r ffigyrau ar gyfer Radio Cymru hefyd yn cynnwys y nifer sy’n gwrando ar ei chwaer-orsaf ddigidol, Radio Cymru 2.

Ffigyrau ar i lawr ers degawd

Ers 2010, mae nifer y gwrandawyr wedi cwympo yn gyffredinol. Ar ddiwedd trydydd chwarter y flwyddyn honno, roedd 172,000 o bobol yn gwrando ar y donfedd.

Ar ddechrau 2011, 134,000 o bobol oedd yn gwrando, ond fe gododd y ffigwr hwnnw erbyn diwedd y flwyddyn i 144,000.

Roedd cyfres ystadegau 2012 hefyd yn un gymysglyd – yn dechrau gyda 125,000 o wrandawyr yn ystod y chwarter cynta’, ac yn codi i 142,000 cyn cwympo eto i 131,000 a 136,000.

Efallai mai yn 2013 y digwyddodd y difrod mwya’, gyda niferoedd y tri chwarter cynta’ o gwmpas 140,000 ond yn cwympo’n sylweddol ddiwedd y flwyddyn i 119,000. Mae’r orsaf wedi’i chael hi’n anodd dod yn ôl o hynny.

Yn ystod 2014, a ddechreuodd gyda 106,000 yn gwrando, fe fu dirywiad pellach i 105,000 cyn recordio dau ddarlleniad anghyffredin o uchel o 147,000 a 143,000.

Roedd 2015 yn flwyddyn fflat a ddechreuodd gyda darlleniad o 108,000 yn ystod y chwarter cynta’, a 104,000 yn yr ail. Erbyn trydydd chwarter 2015, roedd y ffigyrau gwrando yn dangos 116,000, ac ystadegau diwedd y flwyddyn yn brolio 126,000 o wrandawyr.

Ond roedd 2016 yn flwyddyn isel arall. 112,000 o bobol oedd yn gwrando rhwng Ionawr a Mawrth; 103,000 rhwng Ebrill a Mehefin; a 101,000 rhwng Gorffennaf a Medi.

Yn ystod 2017, fe aeth nifer y gwrandawyr i fyny o 119,000 am y chwarter cyntaf; i 129,000 yn yr ail; 124,000 yn y trydydd a diweddu’r flwyddyn ar 126,000.

Y llynedd, 2018, roedd cwymp sylweddol rhwng yr ail a’r trydydd chwarter – o 121,000 i 112,000 – cyn diweddu’r flwyddyn ar 118,000 .

Yn ystod 2019, mae’r ffigyrau wedi bod ar i lawr – o 118,000 ar ddiwedd y chwarter cyntaf, i 112,000 ddiwedd yr ail chwarter, cyn taro 102,000 ar ddiwedd trydydd chwarter y flwyddyn.