Bydd dyn 28 oed yn mynd gerbron ynadon yn Sir y Fflint heddiw (dydd Llun, Hydref 28), wedi’i gyhuddo o geisio llofruddio.

Mae’n dilyn digwyddiad ger y fynedfa i safle Corus yn Garden City ddydd Llun diwethaf (Hydref 21).

Cafodd un dyn anafiadau ar ôl iddo fe a dyn arall gael eu trywanu.

Dywed yr heddlu fod digwyddiadau o’r fath yn rhai “prin”.

Dydyn nhw ddim yn chwilio am unrhyw un arall mewn perthynas â’r digwyddiad, ac maen nhw wedi diolch i’r gymuned leol am eu cydweithrediad.