Mae cwmni M&S yn dweud mai mesur “dros dro” yw gwerthu llaeth o Loegr yn eu siopau yng Nghymru.

Fe fu nifer yn cwyno dros yr wythnosau diwethaf o weld llaeth o Loegr yn cael ei werthu ar draul llaeth lleol, a hynny mewn sawl ardal yng Nghymru.

Yn ôl y cwmni, cwymp Tomlinsons Dairies sydd wedi sbarduno’r angen i werthu llaeth o Loegr, ond maen nhw’n dweud eu bod nhw’n chwilio am gyflenwyr mwy lleol yn y tymor hir.

Cwymp cwmni Tomlinsons

Daeth cadarnhad bythefnos yn ôl bod y cwmni prosesu llaeth yn y gogledd wedi cael ei roi yn nwylo’r gweinyddwyr, gan roi 331 o weithwyr ar y clwt.

Bu pryderon ynghylch dyfodol y cwmni yn Wrecsam yn dilyn adroddiadau bod ffermwyr wedi cael gwybod na fydd yr hufenfa yn gallu prosesu eu llaeth.

Mae gan Tomlinson’s Dairies safleoedd yn ardaloedd Caer a Sir Amwythig.

Costau cynyddol a phrisiau isel am gynnyrch llaeth sy’n gyfrifol am gwymp y cwmni.

Datganiad

“Mae ein perthynas â’n ffermwyr yn ganolog i’n rhaglen Select Farms,” meddai llefarydd ar ran M&S wrth golwg360.

“Rydym yn cydweithio’n uniongyrchol â’r ddau ffermwr syn cynhyrchu llaeth Select Farm M&S trwy Tomlinsons Dairies er mwyn sicrhau eu bod nhw’n cael eu cefnogi’n llwyr.

“Tra ein bod ni’n gweithio ar ddatrysiadau, rydym yn dod o hyd i laeth dros dro gan gyflenwyr eraill er mwyn sicrhau ein bod ni’n cynnig llaeth o’r un safon i’n cwsmeriaid yng Nghymru.

“Gobeithio bod hyn yn cynnig eglurhad.”