O wleidyddion i sêr y byd pêl-droed, mae negeseuon di-ri ar y cyfryngau cymdeithasol wrth i dîm rygbi Cymru herio De Affrica yn rownd gyn-derfynol Cwpan y Byd yn Japan heddiw.

Pe baen nhw’n ennill, bydden nhw’n cyrraedd rownd derfynol y gystadleuaeth am y tro cyntaf erioed, gan fynd gam ymhellach nag y gwnaethon nhw yn 1987, y gystadleuaeth gyntaf erioed.

Bydden nhw’n herio Lloegr yn y rownd derfynol yr wythnos nesaf.

Negeseuon

Daw’r neges hon gan Aaron Ramsey, un o sêr y bêl gron.

Dyma air o anogaeth gan gorff Chwaraeon Cymru.

Ac mae un o’r sefydliadau cenedlaethol wedi anfon gair o gefnogaeth i Japan.

Dyma neges gan Elin Jones, Llywydd y Cynulliad:

Ac mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi anfon neges hefyd:

Dyma neges gan Mark Drakeford, prif weinidog Cymru: