Mae yna 17,000 yn fwy o bobol yn gweithio’r nos erbyn hyn o gymharu â phum mlynedd yn ôl.

Mae ymchwil newydd gan y TUC yn datgelu bod 165,000 o weithwyr Cymru yn gweithio shifftiau nos yn rheolaidd ar hyn o bryd – 13% o’r holl weithlu.

Mae Cymru ymhlith y rhannau o wledydd Prydain sydd â’r gyfran uchaf o weithwyr nos, gyda gogledd-ddwyrain Lloegr (14.85%) a’r Alban (13.3%) ychydig ar y blaen.

Yng nghanol dinas Llundain wedyn, dim ond 11% o’r gweithlu sy’n gweithio’r hwyr, ond mae nifer y gweithwyr ei hun (414,000) yn uwch nag yn unman arall.

Mae cyfanswm o 3.25m o weithwyr nos ledled gwledydd Prydain – 100,000 yn fwy nag yr oedd yn 2014, meddai’r ymchwil wedyn.

Mae 924,000 o’r ffigwr hwnnw yn weithwyr sydd dros 50 oed, tra bo 222,000 dros 60 a 69,000 dros 65.