Mae’r elusen ASH Cymru wedi croesawu cefnogaeth drawsbleidiol gan ACau i amddiffyn plant rhag cynnyrch tybaco mewn peiriannau gwerthu yng Nghymru.
Fe fu dadl ynghylch y Rheoliadau Amddiffyn rhag Tybaco (Gwerthiannau o Beiriannau Gwerthu) (Cymru) 2011 ym Mae Caerdydd brynhawn heddiw.
Mae disgwyl i’r rheoliadau ddod i rym ar 2 Chwefror, 2012. Fe fydden nhw’n gwahardd gwerthu tybaco mewn peiriannau gwerthu ar draws Cymru.
“Rydan ni ar ben ein digon fod y cynnig wedi’i basio,” meddai Prif Weithredwr dros dro ASH Cymru, Carole Morgan-Jones.
“Mae 1 ym mhob 5 ysmygwr ifanc wedi dweud wrthon ni eu bod yn gallu prynu sigarennau o beiriannau gwerthu sydd ddim yn cael eu goruchwylio. Fe fydd y rheoliadau hyn yn amddiffyn plant rhag gallu cael gafael ar sigarennau’n anghyfreithlon.”
Mae’n fesur iechyd cyhoeddus pwysig i amddiffyn cenedlaethau’r dyfodol ac yn rhan annatod o strategaeth i fynd i’r afael a’r niwed mae tybaco’n ei greu i gymunedau yng Nghymru, meddai.
‘Ystafell ddosbarth’
Eisoes, fe wnaeth yr elusen ryddhau ffigyrau newydd ddechrau’r mis oedd yn dangos bod tua 38 o bobl ifanc sydd erioed wedi ysmygu o’r blaen yn trio sigarennau bob diwrnod yng Nghymru – sydd gyfystyr ag ystafell ddosbarth.
Mae tua 14,000 o bobl ifanc rhwng 11 a 15 blwydd oed sydd erioed wedi ysmygu o’r blaen yn dechrau ysmygu – dyma 269 o bobl ifanc yr wythnos, meddai’r elusen.
Roedd yr ymchwil yn dangos bod tua 1,000 o bobl ifanc rhwng 10 mlwydd oed a 11 yn trio ysmygu am y tro cyntaf. Mae’r nifer yn dyblu mewn plant 12 a 13 blwydd oed ac yn treblu mewn plant 13 a 14 blwydd oed.