Mae dau ddyn wedi cael eu harestio ar amheuaeth o lofruddiaeth ar ôl digwyddiad yng Ngalltmelyd ger Prestatyn neithiwr.

Cafodd yr heddlu eu galw i Ffordd Talargoch ychydig wedi 10.45pm neithiwr ar ôl adroddiadau bod dyn yn ei 30au hwyr wedi dioddef ymosodiad difrifol ger bwyty Chineaidd.

Cafodd y dyn ei gludo i Ysbyty Glan Clwyd ond bu farw’n ddiweddarach.

Mae’n debyg bod y dyn yn dod o Hwngari ond wedi bod yn byw yn Y Rhyl.

Mae’r heddlu’n apelio am wybodaeth gan unrhywun a allai fod wedi gweld yr ymosodiad neu a oedd yn yr ardal o gwmpas y bwyty Chineaidd a’r Star Inn rhwng 10pm a 11pm neithiwr.

Y rhifau i’w ffonio yw 101 neu 0845 6071001 neu Taclo’r Tacle ar 0800 555111.