Mae band byd enwog o Loegr wedi troi at bapur newydd o Gymru er mwyn cyhoeddi enwau’r caneuon a fydd ar ei albwm newydd.

Mae Coldplay eisoes wedi cyhoeddi’r albym ddwbwl, Everyday Life, mewn llythyr i un o’i ffans – cafodd y llythyr ei rhannu ar gyfryngau cymdeithasol.

A gan barhau â’i ymgyrch marchnata anghonfensiynol, bellach mae’r band wedi datgelu manylion am yr albwm mewn hysbyseb yn The Daily Post.

Cafodd prif gitarydd Coldplay, Jonny Buckland, ei fagu yn Sir y Fflint, ac roedd yn arfer gweithio i’r papur gan osod lluniau o dai ar werth.

Mae’n debyg bod yr hysbyseb hefyd wedi ymddangos mewn papurau yn Lloegr, Ffrainc, Awstralia a Seland Newydd.