Mae Llywodraeth Prydain wedi gohirio ei phenderfyniad ynglŷn â chais cynllunio ar gyfer Wylfa Newydd, a hynny tan y flwyddyn newydd.

Roedd disgwyl i’r Ysgrifennydd Busnes, Andrea Leadsom, gymeradwyo cais gan gwmni Pŵer Niwclear Horizon am orchymyn caniatâd datblygu (DCO) – cam a allai fod wedi rhoi ail wynt i’r cynllun drudfawr ym Môn.

Ond mae’r Ysgrifennydd wedi gofyn am fwy o wybodaeth ynglŷn ag effeithiau’r cynllun – gan gynnwys effeithiau amgylcheddol – cyn dod i benderfyniad.

Mae hi wedi rhoi tan ddiwedd y flwyddyn er mwyn derbyn ymatebion pellach, ac mae wedi gwahodd sylwadau gan sefydliadau cyhoeddus – Cyfoeth Naturiol Cymru a Chyngor Ynys Môn yn eu plith – ar y mater.

Mae disgwyl i’r penderfyniad terfynol gael ei gyhoeddi ar Fawrth 31, 2020.

Roedd arolygwyr cynllunio wedi cyflwyno eu hargymhellion i’r Llywodraeth ar ôl treulio chwe mis yn craffu ar y cynllun ac yn ystyried yr effaith fydd Wylfa Newydd yn cael ei chael ar bobol leol a’r amgylchedd.

Mae’r gwaith datblygu wedi bod ar stop ers mis Ionawr yn dilyn ansicrwydd ynglŷn ag ariannu’r cynllun.