Mae Neil McEvoy wedi colli’r hyn y mae ef yn ei alw’n “bleidlais gyntaf ar sofraniaeth i Gymru”.

Cafodd y bleidlais ei chynnal yn y Senedd ym Mae Caerdydd neithiwr (nos Fawrth, Hydref 22), wrth i aelodau’r Cynulliad ystyried eu hymateb swyddogol i fargen Boris Johnson.

Roedd y gwelliant yn galw am refferendwm ar annibyniaeth i Gymru pe bai Brexit heb gytundeb yn dod yn realiti.

Dim ond wyth Aelod Cynulliad oedd o blaid y gwelliant, gyda 43 yn ei erbyn.

Roedd Neil McEvoy yn honni mai dyma’r bleidlais gyntaf o’i math, ond fe gyflwynodd Plaid Cymru bleidlais debyg y mis diwethaf.

Yr hyn sy’n aneglur yw ai’r un broses a gafodd ei defnyddio er mwyn galw am y bleidlais.

Cafodd gwelliant Neil McEvoy ei ychwanegu at gynnig Llywodraeth Lafur Cymru yn galw am wrthod y Bil Ymadael a gafodd ei gyflwyno gan Boris Johnson, prif weinidog Prydain.

Roedd Neil McEvoy yn honni nad yw Llafur na Phlaid Cymru wedi amlinellu opsiwn amgen yn eu cynnig, a bod ei gynnig e’n “ffordd glir ac amgen ymlaen” fel y gallai “Cymru sefyll ar ei thraed ei hun”.