Mae plant a rhieni sy’n gysylltiedig â meithrinfa ar Ynys  Môn wedi cael cynnig profion E.coli yn dilyn achosion diweddar o’r haint.

Mae profion wedi datgelu bod dau achos newydd o’r haint mewn plant sy’n mynychu meithrinfa Tri Ceffyl Bach ger Amlwch.

Mae plant ac oedolion sy’n gysylltiedig â’r feithrinfa wedi cael cynnig prawf ar ôl achosion o E.coli 0157 yr wythnos ddiwethaf.

Hyd yma, mae’r gwasanaeth iechyd gwladol wedi cymryd 27 sampl i gyd, mae 25 ohonynt yn negyddol.

Mae tîm arbenigol wedi’i sefydlu i ddelio gyda’r achos ac mae ymchwiliadau’n parhau i achos yr haint.

Mae symptomau E.coli yn gallu cynnwys dolur rhydd, poenau yn y stumog, a gwres.

Fe gafodd y feithrinfa ei chau ddydd Iau diwethaf, 13 Hydref fel mesur rhagofal ac mae’r awdurdodau’n hysbysu rhieni o’r datblygiadau diweddaraf.