Mae ymadawiad Rewilding Britain o brosiect ail-wylltio ar gyfer y canolbarth yn “gam cyntaf pwysig,” ond mae angen sicrhau nad yw dylanwad y corff yn parhau, yn ôl ffermwr lleol.

Mae ‘O’r Mynydd i’r Môr’ yn brosiect amgylcheddol sy’n anelu at adfer eco-systemau dros 10,000 hectar o dir a 28,400 hectar o’r môr yng ngogledd Ceredigion a Dyffryn Dyfi ym Mhowys.

Er bod y prosiect yn un gwirfoddol, mae wedi ennyn ymateb chwyrn yn lleol, gyda ffermwyr yn poeni ei fod yn ymgais i ail-wylltio cefn gwlad ac atal dulliau ffermio.

Ac erbyn hyn, mae un o brif bartneriaid y prosiect – Rewilding Britain – wedi cyhoeddi y bydd yn gadael, gan adael saith partner yn weddill.

Mae’r prosiect wedi derbyn £3.4m o gyllid ar gyfer y pum mlynedd nesaf trwy’r Rhaglen Tirweddau dan Berygl – sydd ei hun yn cael ei hariannu gan y gronfa elusennol, Arcadia.

Croeso gofalus

Yn ôl Dafydd Morris Jones, sy’n ffermio yn ardal Ponterwydd, roedd cysylltiad Rewilding Britain â’r prosiect yn “creu dim byd ond drwgdeimlad a negyddiaeth”.

“Rewilding Britain oedd y prif rwystr [i ffermwyr lleol], ond mae’n rhaid sylweddoli mai Rewilding Britain wnaeth ysgrifennu’r cais gwreiddiol i’r Endangered Landscapes Programme,” meddai Dafydd Morris Jones wrth golwg360.

“Felly, mae angen sicrhau bod ôl troed Rewilding Britain hefyd yn gadael y prosiect, ac nid jyst y sefydliad ei hunan… Os yw hwn yn wirioneddol nawr yn gyfle i ailddechrau, fe ddylai fod yn ailddechrau o’r cychwyn,” meddai wedyn.

“Mae angen mynd yn ôl i’r bwrdd dylunio, gyda’r bobol gywir o amgylch y bwrdd y tro hwn, ac edrych os oes yna fodd i ddylunio rhywbeth gwirioneddol sy’n mynd i weithio.”

Gwrando ar leisiau lleol

Mewn datganiad, dywed Rewilding Britain fod y penderfyniad i adael O’r Mynydd i’r Môr yn “adlewyrchu barn rhai pobol leol ac undebau ffermwyr a oedd yn anhapus a’n rhan yn y prosiect.”

“Mae barn y gymuned wrth galon O’r Mynydd i’r Môr a sut rydyn ni eisiau gweithredu yn Rewilding Britain,” meddai gwefan y corff.

“Er mwyn llwyddo, mae’n rhaid i O’r Mynydd i’r Môr gael ei arwain yn lleol a’i gefnogi gan y gymuned wrth iddo ddod o hyd i ffyrdd o helpu pobol a natur i ffynnu.”

Y sefydliadau sy’n dal i fod yn bartneriaid y prosiect yw Coed Cadw, Ymddiriedolaeth Natur Maldwyn, RSPB, Cymdeithas Cadwraeth Forol, PLAS Ardal o Gadwraeth Forol Arbennig, Cadwraeth Dolffiniaid a Morfilod a’r WWF.