Mae ymchwiliad ar y gweill ar ôl i ddau berson  gael eu hanafu tra roedd yr heddlu yn erlid car oedd wedi ei ddwyn.

Mae Comisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu yn ymchwilio i’r ddamwain a ddigwyddodd wythnos ddiwethaf.

Roedd swyddogion o Heddlu De Cymru yn erlid car Ford Fiesta du ar ffordd yr A4058 ym Mhentre yn y Rhondda ar 10 Hydref.

Roedd gyrrwr y Fiesta wedi colli rheolaeth o’r car ac wedi taro yn erbyn Vauxhall Corsa gan anafu’r gyrrwr 22 oed, a dynes 20 oed oedd hefyd yn teithio yn y car.

Cafodd y ddau eu cludo i Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn Llantrisant. Mae’r gyrrwr yn parhau mewn cyflwr sefydlog.

Dywedodd Comisiynydd Comisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu yng Nghymru, Tom Davies bod y ddamwain wedi digwydd mewn ardal breswyl ac y byddai’r ymchwiliad yn ceisio darganfod a oedd yr heddlu wedi ymddwyn yn y modd cywir.

Dywedodd bod na “bolisiau a dulliau gweithredu manwl ar gyfer erlid gan yr heddlu er mwyn sicrhau eu bod yn cael eu gwneud yn y modd mwyaf diogel. Fe fydd ein hymchwilwyr yn edrych ar yr hyn ddigwyddodd yn yr achos yma.”

Cafodd gyrrwr y Ford Fiesta ei arestio am gymryd car heb ganiatad y perchennog, troseddau yn ymwneud â chyffuriau a gyrru’n beryglus.