Mae Boris Johnson, prif weinidog Prydain, yn “anwybodus”, yn ôl Jonathan Edwards, aelod seneddol Plaid Cymru dros Ddwyrain Caerfyrddin a Dinefwr.

Fe fu’n siarad â golwg360 yn dilyn diwrnod o drafod yn San Steffan ddoe – diwrnod a gafodd ei “adeiladu lan mewn i Ddydd Sadwrn Sblennydd”, meddai.

Ac fe ddaw ar ôl iddo ddisgrifio’r sefyllfa bresennol o fewn y Llywodraeth Geidwadol fel “Thatcheriaeth ar steroidau”.

Mae’n dweud nad oes modd “ymddiried yn unrhyw beth mae [Boris Johnson] yn ei ddweud ar lawr Tŷ’r Cyffredin”.

Fe ddaw ar ôl i Boris Johnson golli pleidlais a fyddai wedi ei alluogi i ymestyn proses Brexit, ond bellach fe fydd yn rhaid iddo aros tan bod deddfwriaeth yn ei lle cyn y bydd yn cael gwneud cais i benaethiaid Ewropeaidd er mwyn ymestyn y dyddiad cau y tu hwnt i Hydref 31.

“Y confensiwn mewn gwleidyddiaeth yw, os yw rhywun yn rhoi ei air ar lawr Tŷ’r Cyffredin, mae hwnna’n sacrosanct,” meddai Jonathan Edwards.

“Ond ry’n ni’n gwybod fod hynna ddim yn bodoli gyda’r prif weinidog presennol, a dyna pam fi’n credu y cafwyd cefnogaeth i welliant Oliver Letwin, oherwydd dyna i gyd mae hwnna’n gwneud nawr yw sicrhau bod rhaid i’r Llywodraeth Brydeinig ddod â’u cynlluniau o flaen Tŷ’r Cyffredin mewn deddfwriaeth cyn bod y broses adael yn cael ei hawdurdodi.”

Cwestiynu cymeriad Boris Johnson

“Dw i jyst yn credu ei fod e’n anwybodus,” meddai wedyn am ei allu gwleidyddol.

“Dw i ddim yn credu ei fod e’n ddyn sy’n deall manylion.

“Os ydych chi’n edrych ar yr hyn ddywedodd e cyn y refferendwm, mae’n dweud fod e’n mo’yn aros o fewn y Farchnad Sengl.

“Wrth gwrs, ar ôl y refferendwm, maen nhw [y Ceidwadwyr] yn newid eu barn nhw ar ôl sylweddoli beth yw goblygiadau aros o fewn y Farchnad Sengl.

“Dydyn nhw ddim yn deall beth yw goblygiadau eu polisïau eu hunain, a dyna pam fod y cawl rhyfeddol hyn, yr argyfwng enfawr hyn, yn wynebu gwleidyddiaeth y wladwriaeth Brydeinig yw fod prosiect yn cael ei gychwyn o ran gadael yr Undeb Ewropeaidd a does dim syniad gan y bobol sy’n gwthio am hynny beth i’w wneud os ydyn nhw’n ennill y refferendwm.

“Maen nhw wedi bod yn ei wneud e lan fel bo nhw’n mynd yn eu blaenau.”

Dyfodol y prif weinidog

Ar hyn o bryd, dydy Jonathan Edwards ddim yn credu bod dyfodol Boris Johnson fel prif weinidog yn y fantol yn y dyfodol agos.

Ond fe allai wynebu achos llys ar ôl anfon tri llythyr, gan gynnwys un at yr Undeb Ewropeaidd heb lofnod, yn gofyn am ymestyn y broses Brexit – ond yn ymbellhau oddi wrth y cais mewn llythyr arall, gan ddweud mai cais ar ran y Senedd yw e.

“Mae’r hyn mae e wedi’i wneud neithiwr yn dangos cymeriad yr unigolyn, ble mae e’n anfon tri llythyr gwahanol,” meddai Jonathan Edwards.

“Mae e’n mynd i ffeindio’i hun o flaen y llysoedd nawr, a dw i ddim yn argyhoeddedig mai dyma sut ddylai prif weinidog unrhyw lywodraeth weithredu.”

Ond mae’n dadlau na fydd ei weithredoedd yn arwain at bleidlais o ddiffyg hyder, a hynny am resymau gwleidyddol.

“Dwi ddim yn rhagweld symudiad o bleidlais o ddiffyg hyder oherwydd fi’n credu mai’r broblem gyda hwnna yw fod e’n arwain at etholiad cyffredinol ac yn sicr, dw i wedi bod o’r farn am gyfnod hir iawn nad yw etholiad cyffredinol yn mynd i ddatrys y sefyllfa hyn.

“Yr unig ffordd ry’n ni’n mynd i’w wneud e yw drwy refferendwm.

“Ond mae’n edrych fel bod paralysis yn Nhŷ’r Cyffredin, hynny yw does dim mwyafrif ar hyn o bryd ar gyfer refferendwm ond, wrth gwrs, fel mae’r ddeddf yn cael ei sgriwtineiddio, pwy a ŵyr? Mae ei weithredoedd e fel mae e wedi neilltuo’r DUP, er enghraifft, yn dangos eto nad oes modd ymddiried yn yr unigolyn.

Dyfodol Brexit?

Beth, felly, am ddyfodol Brexit?

“Mae’n anodd dweud,” meddai.

“Yr argraff dwi’n cael ar hyn o bryd fod y rhifau gyda fe i gael y cytundeb trwodd, ond mae’n rhaid iddo fe fynd trwy’r broses ddeddfwriaethol.

“Tasen i’n arwain y Llywodraeth Brydeinig ac yn edrych ar y mathemateg yna, yn hytrach na chwarae gemau – mae e’n mynd i orfodi pleidlais arall yfory, yn ôl y sôn er dwi ddim yn siŵr y bydd y Llefarydd yn ei ganiatáu e – bydden nhw lot gwell off yn dod ymlaen â’r ddeddfwriaeth a mynd trwy’r prosesau a gwneud hynny mewn ffordd gywir a thrylwyr.”