Wyth mlynedd yn ôl fe gollodd Cymru o bwynt i Ffrainc mewn rownd gynderfynol ar ôl colli Sam Warburton i garden goch.

Y tro yma, fe enillon nhw o bwynt wedi i ail reng Ffrainc, Sébastien Vahaamahina, gael ei anfon o’r cae.

Y digwyddiad yna ar ôl penelin amlwg a bwriadol i wyneb y blaenasgellwr Aaron Wainwright a newidiodd y gêm pan oedd Ffrainc wedi cadw Cymru dan bwysau, a hwythau ar y blaen o 19-10.

Hyd yn oed wedyn, fe gadwon nhw i fygu Cymru a bygwth a dim ond ar 74 munud y llwyddodd Cymru i ennill y gêm. Roedd camdrafod ac ildio’r bêl ar y llawr wedi costio’n ddrud.

Y cais allweddol

Hyd yn oed efo’r cais allweddol, roedd yna ddadlau; wrth i’r eilydd o fewnwr Tomos Williams rwygo’r bêl o sgarmes, roedd yna amheuaeth ei bod wedi mynd ymlaen cyn cyrraedd Justin Tipuric ac wedyn Ross Moriarty a chroesi’r llinell.

Gyda throsiad hawdd i Dan Biggar i ychwanegu at gic gosb yn fuan wedi’r garden goch, dyna hi’ Cymru’n cadw’r bêl yn dynn a defnyddio’u mantais o ddyn i reoli’r sgrym a gwthio ymlaen.

Ond fe fydd rhaid iddyn nhw chwarae’n llawer gwell yn y pedwar ola’ er mwyn cyrraedd y rownd derfynol.

Cyn yr hanner, Ross Moriarty oedd y dihiryn a Sébastien Vahaamahina oedd arwr Ffrainc. Roedd Moriarty wedi cael carden felen o fewn hanner munud i ddod i’r cae yn eilydd a rhif 5 Ffrainc oedd wedi sgorio’r cais cynta’.

Fel y gwnaethon nhw yn erbyn Fiji, fe gafodd Cymru eu dal gan redeg cry’ a phasio cyflym Ffrainc yn yr wyth munud cynta’ ac, er eu bod wedi brwydro’n ôl a sefydlu trefn, fe newidiodd  trosedd Ross Moriarty hynny.

Yn y munudau cynta’, fe sgoriodd Ffrainc ddau gais – y cynta; gan Sébastien Vahaamahina    wrth yrru trosodd ar ôl pwysau ar linell Cymru.

Er fod Romain N’Tamack wedi methu’r gic, fe lwyddodd gyda throsiad hawdd i’r ail gais wedi i Charles Ollivon groesi o dan y pyst. Roedd hi’n 12-0.

Taro’n ôl

Roedd angen mawr am i Gymru arafu’r gêm a sefydlu patrymau ond pêl rydd a ddaeth â chais i’r rheng ôl Aaron Wainwright wrth iddo garlamu trwodd o’r 10 – ar ôl tacl gref gan Jake Ball.

Gyda throsiad gan Dan Biggar a chic gosb ar ôl i Ffrancwr fynd i mewn i ryc efo’i ysgwydd, roedd hi’n ymddangos bod Cymru ar y ffordd yn ôl. 12-10.

Wedyn, fe ddaeth trobwynt cynta’. Josh Navidi yn gorfod gadael  ar ôl 28 munud a Ross Moriarty ymlaen yn rhif 8. O fewn hanner munud ge garodd garden felen am dacl uchel.

Fe wnaeth Ffrainc y gorau o’r fantais gyda deg munud o bwysau. Fe ddaeth cais a throsiad wrth i Virimi Vatakatawa groesi ar ôl pasio a dadlwytho slic yn y 22.

Fe wrthodon nhw gyfle am gais arall pan fethodd Romain N’Tamack gyda  chic gosb. Roedd Cymru’n lwcus i fynd i mewn efo’r bwlch yn ddim ond naw phwynt.

Yn y diwedd, fe fyddai’r rhan fwya’ o wylwyr diduedd yn dweud eu bod wedi bod yn lwcus i ennill hefyd.