Ian Jones
Mae Prif Weinodg Cymru ac Aelodau Cynulliad wedi croesawu penodiad Prif Weithredwr newydd S4C – ond mae rhai wedi datgan pryder na fydd yn dechrau ar ei swydd tan fis Ebrill nesaf.

Fe gyhoeddodd Cadeirydd S4C Huw Jones heddiw mai Ian Jones fydd Prif Weithredwr newydd y sianel. Ar hyn o bryd mae Ian Jones yn cael ei gyflogi gan A&E Networks yn Efrog Newydd ac oherwydd problemau cytundebol, mae’n debyg na fydd yn cychwyn ei swydd newydd tan Ebrill 22, 2012.

“Er fy mod i’n croesawu penodiad Ian Jones, rwy’n bryderus iawn na allai fod yn ei swydd tan fis Ebrill,” meddai Rhodri Glyn Thomas o Blaid Cymru.

“Mae S4C mewn cyfnod allweddol yn y trafodaethau  gyda’r BBC ac mae’n drueni mawr na fydd y Prif Weithredwr newydd yn rhan o’r broses. Fe fydd penderfyniadau tyngedfennol am ddyfodol y sianel yn cael eu gwneud cyn iddo gychwyn ei swydd.”

“Fy ngobaith i yw y gall fod yn y swydd newydd yn llawer cynt na’r disgwyl,” meddai.

Roedd Bethan Jenkins, llefarydd Plaid Cymru  dros yr  iaith  Gymraeg,  treftadaeth a chwaraeon yn croesawu’r penodiad hefyd ond dywedodd bod tasg Ian Jones yn mynd i fod yn “un anodd iawn.”

“Bydd  ei dasg  yn un anodd iawn, wrth iddo ymuno â’r sianel ar groesffordd yn ei hanes   gan fod ei  chyllid  nawr  yn dod o dan nawdd y BBC, ac ar adeg pan fo’r sianel yn  wynebu toriadau nas gwelwyd o’r blaen  i’w chyllideb – oll yn wyneb  niferoedd cynulleidfaoedd yn cwympo, a her yr oes ddigidol,” meddai Bethan Jenkins AC De Orllewin Cymru.

‘Creadigrwydd’

“Ni allaf bwysleisio pa mor bwysig yw hi fod y cyfrifoldeb am greadigrwydd yn cael ei ddychwelyd i’r sector annibynnol. Dylai fod yn  brif  ystyriaeth  i S4C fel corff comisiynu,  yn hytrach na phoeni am faint y darparwyr,” meddai Bethan Jenkins.

“Rwy’n gobeithio y bydd  S4C o dan arweinyddiaeth Ian Jones yn  dychwelyd i’w  lle haeddiannol  ym mywyd y Cymry,  yn bod yn ganolbwynt bywiog,  yn ddarparwr rhaglenni hynod greadigol ac uchelgeisiol, ac  yn cynrychioli mynegiant o’r hyn y gellir ei gyflawni trwy gyfrwng y Gymraeg,” meddai Bethan Jenkins.

‘Aros yn annibynnol’

Eisoes, mae Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones wedi “llongyfarch” Ian Jones ac wedi dweud y “bydd yn cymryd y swydd ar adeg hynod o bwysig i’r sianel.”

“Yn ystod y flwyddyn ddiweddaf rydym ni wedi mynegi ein pryderon i Lywodraeth y DU am yr effaith bydd ei thoriadau ariannu yn cael ar S4C.

“Rydw i a’r Gweinidog Treftadaeth, Huw Lewis wedi gwneud yn glir ei fod yn hanfodol i S4C aros yn annibynnol o’r BBC yn olygyddol ac yn weithredol, ac rydym wedi ailadrodd hyn i’r ddwy sianel yn ddiweddar.

“Mae’n bwysig sicrhau ariannu’r sianel yn y tymor hir. Rydym ni’n credu y dylai cynnal adolygiad sylfaenol o S4C i gyfrannu at gyfeiriad y sianel yn y dyfodol,” meddai Carwyn Jones.

Fe ddywedodd Peter Black o’r Democratiaid Rhyddfrydol ei fod yn dymuno pob hwyl i Ian Jones yn ei swydd newydd. “Mae’n wynebu sialensiau anodd gan gynnwys gwella rheolaeth S4C a delio â’r dirywiad yn niferoedd y gwylwyr,” meddai cyn dweud ei fod yn “edrych ymlaen at weithio gyda Ian Jones i ail-sefydlu S4C fel un o sianeli teledu gorau’r byd.”