Mae Liz Saville Roberts, arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, yn dweud nad yw ei phlaid yn fodlon cefnogi “Brexit y biliwnyddion”.

Daw ei sylwadau wrth i aelodau seneddol gwrdd yn San Steffan ar ddydd Sadwrn am y tro cyntaf ers 37 o flynyddoedd, i drafod bargen Brexit Boris Johnson.

“Sut allai Plaid Cymru fyth gefnogi ei Brexit biliwnyddion?” meddai yn ystod y drafodaeth.

Mae’n dweud mai “ôl-ystyriaeth” yw Cymru bob tro.

Sylwadau’r arweinydd yn llawn

“Mae’r prif weinidog yn gofyn i ni, â geiriau angerddol, i bleidleisio o blaid ei fargen â’n calonnau.

“Ond all fy mhen ddim amgyffred y ffaith fod gofyn i ni dderbyn ei eiriau ag anwybodaeth lawn ymddiriedaeth o’r goblygiadau llawn.

“Ac mae fy nghalon yn dweud wrthyf na fydd pobol Cymru fyth yn cael eu gwasanaethu’n dda gan y llywodraeth hon.

“Ol-ystyriaeth ydyn ni o hyd i’r prif weindiog hwn.

“Mr Llefarydd, mae e wedi gwrthod rhannu’r asesiadau effaith, a dim ond heddiw wnaeth e ddatgelu’r testun cyfreithiol 535 tudalen hwn i ni gael ei ddeall.

“Sut allai Plaid Cymru fyth gefnogi ei Brexit biliwnyddion?”

Ymateb Boris Johnson

Ond wrth ymateb i’w sylwadau, dywed Boris Johnson fod Cymru wedi pleidleisio tros adael yr Undeb Ewropeaidd yn y refferendwm yn 2016, ac y “dylai hi barchu hynny”.

“Mr Llefarydd, mae’n ymddangos i mi fod y ddynes anrhydedd wedi penderfynu eisoes ynghylch y 535 o dudalennau sydd ganddi yn ei dwylo cyn iddi graffu ar bob gair o’r testun.

“Ond byddwn yn ei hatgoffa’n dyner o’r hyn y mae’r ddau ohonom yn ei wybod eisoes, sef y ffaith fod Cymru wedi pleidleisio i adael, a dw i’n credu y dylai hi barchu hynny.”