“Crafu gwaelod y gasgen” wrth ethol Boris Johnson, meddai protestiwr

Diweddarwyd am  
Steven Bray, y protestiwr

Steven Bray o Bort Talbot yn protestio yn erbyn Brexit

Llun: ClemRutter trwy Wikimedia Commons

Ymhlith y protestwyr sy’n ymgynnull ar ddiwrnod hanesyddol yn San Steffan heddiw (dydd Sadwrn, Hydref 19) mae Steven Bray o Bort Talbot.

Wrth i aelodau seneddol gyfarfod ar ddydd Sadwrn am y tro cyntaf ers 37 o flynyddoedd, mae’r protestiwr 50 oed yn parhau i ddangos ei wyneb y tu allan i’r adeilad, fel y bu’n gwneud bob diwrnod o’r trafodaethau ers 25 mis.

Mae wedi dod yn adnabyddus am ei wisgoedd llachar, ac mae’n sefyll ymhlith y protestwyr eraill yn gwisgo siaced Jac yr Undeb, het fawr a throwsus baner yr Undeb Ewropeaidd.

Mae’n dweud mai protestio yn erbyn Brexit yw ei brif ddiddordeb bellach.

“Fe wnaethon ni grafu gwaelod y gasgen gyda’r prif weinidog hwn,” meddai wrth ddatgan ei farn am Boris Johnson yn blwmp ac yn blaen.

 

Erthyglau perthnasol

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.

Rheolau Cyfrannu | Nodi Camddefnydd

Rheolau Cyfrannu

Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.

Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.

Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360 yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.

Iawn

Nodi Camddefnydd

Os ydych chi’n credu bod y neges yma’n torri rheolau’r wefan, cliciwch ar y faner nodi camddefnydd sy’n ymddangos wrth sgrolio dros unrhyw sylwad. Os bydd tri pherson yn anhapus, bydd y neges yn dod yn ôl at Golwg360 i’w ddilysu.

Iawn

Owain Glyn Dŵr a dysgu hanes Cymru – darlith Dr Elin Jones