Wrth i aelodau seneddol ymgynnull yn San Steffan ar ddydd Sadwrn am y tro cyntaf heddiw ers 37 o flynyddoedd, mae bargen Boris Johnson, prif weinidog Prydain, yn hollti barn y pleidiau gwleidyddol yma yng Nghymru.

Mae Jane Dodds, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru a Jonathan Edwards, aelod seneddol Plaid Cymru, yn wfftio’r fargen.

Ond mae pryder y gallai aelodau seneddol Cymreig y Blaid Lafur gefnogi’r fargen tra bydd y rhan fwyaf, os nad pob un o aelodau seneddol Ceidwadol hefyd yn cefnogi’r fargen.

Y Democratiaid Rhyddfrydol

Wrth alw ar aelodau seneddol Cymreig i wrthod y fargen, mae Jane Dodds yn parhau i alw am ail refferendwm ar Brexit yn unol â safbwynt y blaid.

Mae’n dweud bod y fargen yn “gytundeb gwael i Gymru” gan y byddai’n gadael y wlad “yn dlotach, yn llai rhydd ac yn llai dylanwadol ar lwyfan y byd”.

Mae hefyd yn dweud y byddai’n gadael ffermwyr a gweithgynhyrchwyr heb farchnadoedd allweddol, a’r Gwasanaeth Iechyd mewn perygl o fethu â recriwtio staff allweddol.

“Heddiw, byddaf i a fy nghydweithwyr yn y Democratiaid Rhyddfrydol yn falch o bleidleisio i wrthod Bargen Brexit Boris Johnson ac i gefnogi gwelliannau i roi’r gair olaf i’r bobol drwy Bleidlais y Bobol,” meddai mewn datganiad.

“Peidiwch â chamddeall, mae cytundeb Boris Johnson yn gytundeb gwael i Gymru ac i’r Deyrnas Unedig gyfan.

“Ddylai’r un aelod seneddol Cymreig ei chefnogi.”

Plaid Cymru

Mae Plaid Cymru hefyd yn gwrthwynebu’r fargen sy’n cael ei disgrifio gan Jonathan Edwards, aelod seneddol Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, fel “Thatcheriaeth ar steroidau”.

Ac mae’n dweud y dylai unrhyw aelod seneddol Llafur sy’n cefnogi’r fargen gael eu “troi allan” o’r blaid.

Mae Plaid Cymru wedi gwrthod sawl bargen arall ar Brexit ac maen nhw’n gryf yn erbyn ymadawiad heb gytundeb.

“Fyddai’r un aelod seneddol yn ei iawn bwyll yn pleidleisio i wneud ei etholwyr yn dlotach: dyna fyddai effaith pleidleisio dros y cytundeb hwn,” meddai Jonathan Edwards.

Mae’n dweud bod y fargen newydd “hyd yn oed yn wannach na’r cytundeb diwethaf” o safbwynt safonau bwyd, yr amgylchedd a gwarchod hawliau gweithwyr.

Mae’n dweud y byddai cefnogi’r fargen “fel pleidleisio dros Thatcheriaeth ar steroidau”, ac y byddai Llafur, o’i chefnogi, yr un “mor euog â’r Ceidwadwyr”.

Ceidwadwyr

Yn ôl y disgwyl, fe fydd y rhan fwyaf o aelodau seneddol Ceidwadol Cymru’n cefnogi’r fargen ond dydy Boris Johnson ddim yn sicr o gael cefnogaeth pawb.

Mae disgwyl i Alun Cairns a Simon Hart, y ddau o Gymru sydd yn y Llywodraeth, gefnogi’r fargen, er bod Simon Hart o blaid aros yn yr Undeb Ewropeaidd.

Mae ansicrwydd o hyd ynghylch David Jones, cyn-Ysgrifennydd Cymru ac Aelod Seneddol Gorllewin Clwyd.

Mae Guto Bebb, a gollodd chwip y blaid ac sydd bellach yn annibynnol, yn barod i gefnogi’r cytundeb yn ôl y sôn, ond mae’n galw am gynnwys ail refferendwm fel rhan o’r fargen hefyd os na fydd yn llwyddo.

Llafur

Y disgwyl yw y bydd Llafur yn gwrthwynebu’r fargen, ond fod un aelod senddol yn barod i’w chefnogi.

Mae Stephen Kinnock, aelod seneddol Aberafan, yn awyddus i gau pen y mwdwl ar Brexit, ac mae’n ymddangos ei fod yn fodlon cefnogi’r fargen er mwyn gwneud hynny.