Mae’r maswr Dan Biggar a’r canolwyr Jonathan Davies a Hadleigh Parkes yn y tîm i wynebu Ffrainc fore Sul.

Mae Jonathan Davies erbyn hyn wedi gwella o’r anaf a dderbyniodd i’w goes yn ystod y gêm yn erbyn Ffiji, a’r un yw hanes Hadleigh Parkes a anafodd ei ysgwydd yn y gêm yn erbyn Wrwgwái.

Bu pryder hefyd am ffitrwydd Dan Biggar, wedi iddo anafu ei ben a gorfod gadael y cae yn ystod y gemau yn erbyn Ffiji ac Awstralia.

Ond mae Warren Gatland wedi cynnwys y tri yn y tîm a fydd yn wynebu’r Ffrancwyr mewn gêm anferthol yn Japan ddydd Sul (Hydref 20).

O drechu’r Ffrancwyr, fe fyddai’r Cymru drwodd i’r rownd gynderfynol, ac yn fuddugoliaeth o gyrraedd ffeinal Cwpan Rygbi’r Byd am y tro cyntaf erioed.

Tîm cryf

Mae’r Prif Hyfforddwr Warren Gatland wedi cyhoeddi’r un tîm a sicrhaodd y fuddugoliaeth fawr yn erbyn Awstralia bron i dair wythnos yn ôl, gyda Chymru yn ennill 29-25.

Yn y rheng flaen bydd Wyn Jones, Ken Owens a Tomas Francis, tra bo’r Capten Alun Wyn Jones a Jake Ball yn ffurfio’r ail reng.

Aaron Wainwright, Justin Tipuric a Josh Navidi fydd yn y rheng ôl.

Mae Gareth Davies a Dan Biggar wedi eu henwi’n fewnwr a maswr, a bydd Hadleigh Parkes a Jonathan Davies yn cychwyn ynghanol y cae.

Y tri yn y cefn wedyn fydd Josh Adams, George North a Liam Williams.

Y tîm

Liam Williams; George North, Jonathan Davies, Hadleigh Parkes, Josh Adams; Dan Biggar, Gareth Davies; Wyn Jones, Ken Owens, Tomas Francis, Jake Ball, Alun Wyn Jones (c.), Aaron Wainwright, Josh Navidi, Justin Tipuric.

Ar y fainc

Elliot Dee,  Rhys Carre, Dillon Lewis, Adam Beard, Ross Moriarty, Tomos Williams, Rhys Patchell, Owen Watkin.