Mae Sir Gaerfyrddin wedi cael ei henwi yr ardal fwyaf peryglus yng Nghymru ar gyfer gyrwyr.

Yn ôl ymchwil gan yr arbenigwyr ceir, AMT – yn seiliedig ar ffigyrau gan Lywodraeth Prydain – cafodd 518 o bobol eu hanafu a saith eu lladd ar ffyrdd y sir yng ngorllewin Cymru yn 2018.

Rhwng siroedd Caerfyrddin, Powys a Chaerdydd wedyn, cofnodwyd 1,441 o anafusion a 24 o farwolaethau yn ystod yr un cyfnod.

Ond o ran y cyfanswm ar gyfer y wlad gyfan, noda’r ymchwil mai Cymru yw’r ardal fwyaf diogel ar gyfer gyrwyr yng ngwledydd Prydain, wedi i 5,758 o anafusion a 103 o farwolaethau gael eu cofnodi yn 2018.

Yn Llundain, ar y llaw arall, roedd y ffigwr yn llawer uwch – cafodd 31,214 eu hanafu a 101 eu lladd.

Yn ôl ATM, mae disgwyl i nifer y bobol sy’n cael eu niweidio o ganlyniad i ddamwain ar y ffordd yng Nghymru ostwng 12.76% erbyn 2020.