Mae disgwyl i Gymru fod ar flaen y gad ym maes technoleg 5G pan fydd canolfan ragoriaeth newydd yn cael ei hagor ym Mhrifysgol Bangor.

Mae’r Ganolfan Ragoriaeth ar gyfer Prosesu Signalau Digidol wedi derbyn bron i £4m o arian Ewropeaidd, ac fe fydd Prifysgol Bangor yn cyfrannu £1.7m a bron i £350,000 ychwanegol yn dod gan bartneriaid sector preifat.

Fe fydd yn galluogi ymchwil i gael ei chynnal ym maes systemau cyfathrebu digidol fel ffonau symudol, WiFi a llinellau gweithgynhyrchu modern.

Gall gwella signalau digidol gyflymu rhwydweithiau mewn modd cost-effeithiol, gan wella’r ffordd y mae dyfeisiau technoleg yn gweithio.

‘Hanfodol’

“Mae systemau digidol y gellir eu haddasu, wedi’u teilwra at ddibenion y defnyddiwr, yn hanfodol yn yr oes sydd ohoni lle mae amser mor brin, ac maen nhw’n hanfodol ar gyfer datblygu ein gwlad wrth i ni hybu cynhyrchiant economi Cymru,” meddai Jeremy Miles, y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit yng Nghymru, sy’n gyfrifol am gyllid Ewropeaidd yng Nghymru. 

“Mae’r Ganolfan Ragoriaeth ar gyfer Prosesu Signalau Digidol wrth galon y gwaith arloesol yn y sector hwn, sy’n hanfodol i’r economi, ac mae’n rhoi Prifysgol Bangor ar frig y diwydiant ymchwil TGCh. 

“Bydd cydweithio rhwng yr academyddion gorau o Gymru a sefydliadau byd-eang, cwmnïau rhyngwladol uchel eu proffil a busnesau bach a chanolig yng Nghymru a’r DU, yn arwain at ymchwil o’r radd flaenaf, a fydd yn ei thro yn arwain at atebion blaengar i hyrwyddo’r economi 5G o amgylch y byd.

“Mae cyllid gan yr UE yn parhau i ysgogi cynnydd ym maes ymchwil a datblygu, gwyddoniaeth, y seilwaith a’r sgiliau yng Nghymru, yn ogystal â hyrwyddo twf economaidd a chreu swyddi newydd. 

“Rydyn ni wedi bod yn glir ein bod am i’r cyllid hwn barhau, i alluogi Cymru i barhau i arwain ymchwil i systemau technoleg newydd sy’n gallu rhedeg ar ffynonellau pŵer isel, ac i weithio tuag at Gymru sy’n fwy cyfartal, yn fwy ffyniannus ac yn wyrddach.”

‘Ymchwil ragorol’

M”ae hyn yn enghraifft wych o’r ymchwil ragorol sy’n cael ei gwneud yn ein Prifysgol,” meddai’r Athro Iwan Davies, Is-ganghellor Prifysgol Bangor.

“Mae’n dangos sut mae ymchwil gan academyddion o fri rhyngwladol yn bwydo i arloesi ac yn cyfrannu at yr effaith economaidd ar y byd ehangach o’n cwmpas. 

“Yn benodol, mae’r Ganolfan Ragoriaeth yn sicrhau bod arloesi a chydweithio wrth galon ei gwaith. 

“Gyda phartneriaid academaidd a sefydliadau o Gymru a gweddill y byd, mae gan y Ganolfan Ragoriaeth y potensial i greu “ardal economaidd ar gyfer Prosesu Signalau Digidol ar hyd yr A55 a fydd yn dod â manteision a fydd yn trawsnewid economi gogledd Cymru.”