Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol yn croesawu adroddiad sydd newydd ei gyhoeddi ar ddigartrefedd.

Grŵp Gweithredu Digartrefedd sydd wedi llunio’r adroddiad sy’n mynd i’r afael â ffyrdd o leihau digartrefedd ac o warchod pobol sy’n cysgu ar y stryd dros y gaeaf.

Mae hefyd yn cynnwys nifer o atebion hirdymor ar gyfer y sefyllfa.

Mae’r grŵp yn gyfuniad o elusennau digartrefedd, awdurdodau lleol, heddluoedd, byrddau iechyd, llywodraeth leol, cymdeithasau tai ac academyddion, ymhlith arbenigwyr eraill.

“Mae’r adroddiad deallus hwn yn amlinellu camau y mae’n rhaid i wneuthurwyr polisïau eu cymryd er mwyn helpu i greu Cymru lle nad oes angen i neb gysgu ar y stryd,” meddai’r Cynghorydd Joe Carter, llefarydd tai y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru.

“Mae’n hen bryd i ni fod yn fwy tosturiol a chymryd agwedd ar sail tystiolaeth tuag at gysgu ar y stryd.

“Rhaid i Lywodraeth y Deyrnas Unedig ddechrau drwy ddiddymu’r Ddeddf Gardota greulon a dyddiedig.”

Mae hefyd yn galw ar Lywodraeth Cymru, awdurdodau lleol a chymdeithasau tai i gydweithio i ddatrys y sefyllfa.