Bydd 125 o bobol ym Mhort Talbot yn colli eu swyddi ymhen dwy flynedd wedi i gwmni darnau ceir yn yr ardal gyhoeddi ei fwriad i gau.
Mae cwmni Hi-Lex Cable System yn arbenigo mewn cynhyrchu ffenestri a drysau ceir ar gyfer gwahanol gwmnïau, gan gynnwys Ford a Honda.
Mewn llythyr a anfonwyd at gwsmeriaid ddechrau’r wythnos, dywedodd y cwmni fod y gwaith yn dod i ben yn ne Cymru yn 2021 oherwydd “gostyngiad sylweddol mewn gwerthiant”.
Cafodd y penderfyniad ei wneud gan gyfarwyddwyr y rhiant-gwmni, Hi-Lex Corporation, yn Japan, ac mae’n rhan o fwriad ehangach i ailstrwythuro busnes y cwmni yn Ewrop.
Bydd unrhyw waith sy’n weddill ar y safle ym Mhort Talbot yn 2021 yn symud i Hwngari, medden nhw wedyn.
Mae rheolwr y safle, Adam Glaznieks, yn dweud bod staff wedi cael eu hysbysu am y penderfyniad ddydd Llun (Hydref 14).
Dyw e ddim yn disgwyl gweld unrhyw un yn colli gwaith o fewn y flwyddyn nesaf, meddai wedyn.