Mae ymchwiliad i farwolaeth ymgyrchwraig o Gaerdydd a darodd ei phen wrth bwyso trwy ffenest ar drên, wedi dod i’r casgliad bod angen gwell ddiogelwch ar drenau.

Bu farw Bethan Roper, 28, o’r anafiadau a dderbyniodd wrth deithio ar drên y Great Western Railway ger Twerton, Caerfaddon, fis Rhagfyr y llynedd.

Roedd hi’n pwyso trwy’r ffenest pan darodd ei phen gangen coeden wrth i’r drên deithio ar gyflymder.

Yr adroddiad

Yn ôl adroddiad gan y Gangen Ymchwilio Damweiniau Rheilffordd, doedd yr arwydd rhybudd uwchben y ffenest ddim yn “cyfleu yn ddigonol y lefel o risg”.

Roedd yr arwydd yn cynnwys y gair “pwyllwch”, gyda’r neges: “Peidiwch â phwyso trwy’r ffenest pan mae’r trên yn symud.”

Mae’r ymchwilwyr o’r farn bod y gair “pwyllwch” yn awgrymu y gallai pwyso trwy’r ffenest fod yn weithred ddiogel o’i gwneud gyda gofal.

Maen nhw hefyd yn tynnu sylw at y ffaith bod yr arwydd yn llai ei faint o gymharu ag arwyddion eraill gerllaw; a’i fod yn felyn yn hytrach na choch – lliw sy’n fwy addas wrth gyfleu peryg, ychwanega’r ymchwilwyr.

Beio Great Western Railway a Network Rail

Yn dilyn marwolaeth teithiwr arall a bwysodd drwy ffenest trên yn Llundain ym mis Awst 2016, cwblhaodd cwmni Great Western Railway asesiad risg o’i ffenestri.

Arweiniodd hyn at gynllun i osod arwyddion diogelwch newydd ar drenau ym mis May 2018, ond doedd y cynllun ddim wedi ei wireddu’n llawn adeg marwolaeth Bethan Roper saith mis yn ddiweddarach.

Dywedodd Great Western Railway wrth yr ymchwilwyr fod y cynllun heb ei gwblhau oherwydd bod dau aelod o staff a oedd yn gysylltiedig â’r dasg wedi gadael y cwmni. Roedden nhw hefyd yn beio methiant system sy’n dilyn darnau o waith.

Cafodd yr arwyddion eu diweddaru yn dilyn marwolaeth Bethan Roper.

Mae adroddiad yr ymchwilwyr hefyd yn cyfeirio at gyfrifoldeb cwmni Network Rail i asesu coedydd gerllaw’r rheilffordd.

Doedd y cwmni ddim wedi archwilio ardal y ddamwain oddi ar 2009, meddai’r adroddiad, cyn ychwanegu bod hyn yn “achos posib” i’r digwyddiad.

 Bethan Roper

Bu farw Bethan Roper tra oedd hi ar ei ffordd adref i Benarth, Caerdydd, ar ôl diwrnod yn siopa Nadolig gyda ffrindiau yng Nghaerfaddon.

Noda’r adroddiad fod aelod o’r criw wedi agor y ffenest a bod o leiaf un ffrind arall wedi pwyso trwyddi cyn i Bethan Roper wneud yr un peth.

Ar ôl taro cangen coeden am 10.04yh, cafodd ei chadarnhau yn farw ychydig funudau yn ddiweddarach yng ngorsaf drenau Bristol Temple Meads.

Roedd Bethan Roper yn gweithio i Gyngor Ffoaduriaid Cymru ac yn gadeirydd ar grŵp y Sosialwyr Ifainc yng Nghaerdydd.

Yn dilyn ei marwolaeth, dywedodd ei thad, Adrian Roper, fod ei ferch “wedi byw bywyd i’r eithaf wrth weithio’n ddiflino ar gyfer gwell fyd.”