Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Alun Cairns, wedi cael ei feirniadu ar ôl anfon sticeri at etholwyr sy’n eu hannog i anwybyddu ‘galwyr diwahoddiad’ – a chanfaswyr gwleidyddol yn eu plith.

Mae Llafur Cymru wedi cyhuddo’r aelod tros Fro Morgannwg o fynd yn groes i safonau’r Senedd ar ôl iddo atodi’r sticer dadleuol wrth lythyr swyddogol sy’n cynnwys logo Tŷ’r Cyffredin.

Mae’r sticer a’r llythyr yn mynd yn groes i reolau Aelodau Seneddol, meddai Llafur Cymru, oherwydd eu bod yn enghraifft o Aelod Seneddol yn defnyddio arian cyhoeddus ar gyfer ymgyrch etholiadol.

Maen nhw wedi galw am ymchwiliad i’r mater, ond mae Alun Cairns yn gwadu gwneud unrhyw beth o’i le.

Daw’r feirniadaeth ar adeg pan mae Prif Weinidog Prydain, Boris Johnson, bron torri ei fol eisiau etholiad cyffredinol, ond mae ei ddiffyg mwyafrif yn Nhŷ’r Cyffredin a holl drafferthion Brexit yn atal hynny ar hyn o bryd.

Beirniadu

“Ymddengys fod Alun Cairns yn defnyddio arian cyhoeddus er mwyn ceisio atal ei wrthwynebwyr gwleidyddol rhag siarad i bleidleiswyr – dylai hyn gael ei ymchwilio,” meddai’r ymgeisydd ar ran y Blaid Lafur yn etholaeth Bro Morgannwg, Belinda Loveluck-Edwards.

“Mae hyn yn ymgais fwriadol i osod canfasio gwleidyddol ar yr un lefel â’r rheiny sy’n dymuno twyllo pobol fregus.”

Mewn ymateb, dywed llefarydd ar ran Alun Cairns fod y sticer yn ymgais i helpu etholwyr i fynd i’r afael â’r cynnydd mewn galwyr diwahoddiad.

“Rydym wedi derbyn sawl cŵyn ynglŷn â’r cynnydd mewn galwyr diwahoddiad ym Mro Morgannwg,” meddai’r llefarydd.

“Cyn i’r clociau gael eu troi yn ôl, mae Alun eisiau cynnig dull sydd wedi ei brofi i’w etholwyr er mwyn lleihau’r nifer o bobol sy’n galw ar stepen eu drws.”