Mae’n bosib bod helyntion priodasol Harri VIII wedi dylanwadu ar sut yr oedd parau priod eraill ei gyfnod yn trin ei gilydd, yn ôl dogfennau sydd newydd ddod i’r fei.

Mae arbenigwyr o Brifysgol Bangor a Phrifysgol Caerwysg yn honni iddyn nhw nabod tebygrwydd rhwng bywyd carwriaethol aelod o deulu o uchelwyr o Fangor a digwyddiadau yn llys brenhinol Harri Tudur.

Roedd Edward Griffith, o ystâd y Penrhyn, yn briod yn ei arddegau â Jane o Cochwillan. Bu farw Jane yn 13 oed. Gyda chaniatâd Canghellor y Brenin, Cardinal Wolsey, priododd Edward Agnes, chwaer Jane, tua 1527, ond y flwyddyn nesaf dychwelodd hithau i fyw gyda’i thad.

Ar yr un pryd daeth yn hysbys bod Harri VIII wedi dechrau achos dirymu i geisio ei ryddhau ei hun o’i briodas â’i wraig Catherine o Aragon – gweddw ei frawd. Mae’r arbenigwyr cyfreithiol o’r farn bod hyn wedi dylanwadu ar Edward i ysgaru Agnes. Roedd sôn am ysgariad y Brenin yn y dogfennau llys sy’n ymwneud ag achos Edward.

Ail-briododd Edward, â Jane Puleston, tua 1529. Ond ymhen dim dychwelodd at Agnes. Yna dychwelodd at Jane Puleston a chawsant dair merch: Jane, Elin a Katherine.

Cyfreithiau cymhleth

“Mi ddaethon nin ar draws yr achos hwn wrth ymchwilio i’r ymgyfreitha cymhleth ynghylch pwy ddylai etifeddu’r ystâd,” meddai Dr Gwilym Owen o Brifysgol Bangor. “Mae’r dystiolaeth wedi’i chynnwys mewn dyddodion tystion a gymerwyd mewn achos Siawnsri.

“Mae’r dyddodion hyn yn eiddo i Ymddiriedolwyr ystâd Powis ac rwy’n ddiolchgar iawn i’r Ymddiriedolwyr am eu caniatâd caredig i gyhoeddi canlyniadau ein canfyddiadau. Mae’r rhan fwyaf o gofnodion eglwysig y cyfnod ar goll. Felly, mae’r dyddodion hyn yn oroesiad ffodus.

“Mae hynny’n awgrymu y gallai papurau o’r fath fod yn fodd inni ddysgu mwy am anghydfodau ynghylch priodas yng nghyfnod y Tuduriaid.”