Mae rheolwr pwll glo Gleision ger Pontardawe, lle bu farw pedwar o lowyr, wedi cael ei arestio ar amheuaeth o ddynladdiad drwy esgeulustod dybryd.

Cafodd Malcolm Fyfield, 55 oed, ei arestio gan Heddlu De Cymru bore ma.

Mae’r heddlu wedi bod yn ymchwilio i achos y ddamwain ym mhwll glo Gleision yng Nghilybebyll ar 15 Medi.

Bu farw David Powell, 50, Philip Hill, 44, Garry Jenkins, 39, a Charles Breslin, 62, ar ôl i ddŵr lifo i’r pwll.

Fe lwyddodd Fyfield i ddianc o’r pwll a chafodd ei gludo i’r ysbyty. Roedd o mewn cyflwr difrifol ar y pryd.

Mae Malcolm Fyfield yn cael ei holi yng ngorsaf yr heddlu ym Mhort Talbot.

Mae teuluoedd y glowyr ac arweinwyr cymunedol wedi cael gwybod bod Malcolm Fyfield  wedi cael ei arestio.

Mae’r heddlu yn gweithio gyda’r Gweithgor Iechyd a Dioglewch yn eu hymchwiliad i’r ddamwain. Mae’r gwaith o arolygu’r safle ar ben ac mae’r pwll bellach dan reolaeth yr Awdurdod Glo.

Dywedodd y Ditectif Prif Arolygydd Dorian Lloyd o Heddlu De Cymru bod y dyn wedi ei arestio yn dilyn ymgynghoriad gyda Heddlu De Cymru, y Gweithgor Iechyd a Dioglewch a Gwasanaeth Erlyn y Goron.