Mae aelodau blaenllaw o’r prosiect ail-wylltio ‘O’r Mynydd i’r Môr’ yng nghanolbarth Cymru, yn dweud fod yr iaith Gymraeg yn ystyriaeth ganolog am mai hi yw iaith ‘gynhenid’ yr ardal.

Maen nhw wedi ceisio tawelu ofnau rhai gwrthwynebwyr trwy bwysleisio bod hynny’n golygu cydweithio â chymunedau lleol a chadw’r economi mor lleol â phosib.

“Diffyg ystyriaeth o’r gymuned Gymraeg” oedd un o’r rhesymau pam fod mudiad Eco Dyfi wedi gadael y prosiect ac mae eraill yn poeni ei fod yn golygu cyflwyno hen anifeiliaid fel y blaidd.

Cadw’r iaith i fynd trwy fyd amaeth

“Dw i yn deall y pryderon ambyty’r iaith, faint mae’r iaith yn cael ei siarad o fewn y byd amaeth, ac os ydyn ni’n colli’r byd amaeth, beth mae hynny’n ei olygu i’r iaith,” meddai Sian Stacey, Cydlynydd Ymgysylltu â’r Gymuned O’r Mynydd i’r Môr.

“Mae hwnna’n rhywbeth dw i’n pryderu amdano fel siaradwr Cymraeg”, meddai “ond dyna sut gall y prosiect yma helpu, trwy gadw’r byd amaeth i fynd, trwy gadw’r iaith i fynd trwy’r byd amaeth, ond hefyd atgyfnerthu’r iaith tu allan i’r byd amaeth yn yr ardal leol.

“Mae yna lwyth o bobol sy’n siarad Cymraeg sydd ddim yn gweithio ar ffarm, neu sydd ddim yn y byd yna o gwbwl ac sy’n dal i siarad yr iaith, ac os oes pobol yn mynd i symud i mewn, wedyn eu cefnogi nhw i ddysgu’r iaith a’i defnyddio o ddydd i ddydd.”

Economi leol 

“Mae’n bwysig inni drio cadw’r economi yn un leol, fel bod y pres sy’n cael ei wario yn yr ardal yn mynd i’r cymunedau yn yr ardal, yn hytrach nag ‘absentee landlords’,” meddai Sian Stacey wedyn.

“Mae’n bwysig bod cwmnïau eco-dwristiaeth yn defnyddio pobol leol yn hytrach na phobol yn fflio mewn i sefydlu busnes yma oherwydd bod yna gyfleoedd iddyn nhw.

“Dw i’n siŵr o ran pobol leol, bydd y pryderon ynghylch ail-gartrefi yn rhywbeth eithaf uchel. I fi, dw i’n rhywun sy’n meddwl am hynny trwy’r dydd, dw i ddim yn berchen ar dŷ eto, a dw i ddim yn siŵr y byswn i’n gallu fforddio tŷ yn lleol.

“Felly mae hwnna yn bersonol i mi, ac yn rhywbeth dw i’n ymwybodol ohono fe yn llwyr.”

Mwy am y stori ar wefan Bro360.

Cefndir

Menter amgylcheddol sy’n anelu at adfer eco-systemau dros 10,000 hectar o dir a 28,400 hectar o’r môr yw ‘O’r Mynydd i’r Môr’. Mae’n cwmpasu godreon Pumlumon yn y mewndir hyd at aber Afon Dyfi a pheth o’r môr y tu hwnt iddi.

Mae wedi ennill £3.4m o gyllid am y 5 mlynedd nesaf trwy’r Rhaglen Tirweddau Dan Berygl.

Y ddau brif bartner yw Rewilding Britain a Coed Cadw. Beirniadwyd y prosiect gan ffermwyr lleol am beidio â bod yn glir ynghylch ei amcanion, ac am ran Rewilding Britain ynddo.