Mae amheuon wedi codi am ddyfodol gwasanaeth newyddion presennol S4C gyda’r sianel yn tendro am raglen gylchgrawn nosweithiol sy’n cynnwys y newyddion.

Mae BBC Cymru wedi dweud wrth Golwg360 eu bod yn “cynnal trafodaethau rheolaidd gyda S4C ynglŷn â’u cynlluniau darpariaeth newyddion.”

Mae wedi dod i’r amlwg bod S4C yn tendro am raglen Gylchgrawn Nosweithiol i’w ddarlledu am hanner awr rhwng 7pm a 8pm, nos Lun i nos Iau.

Cynigir cytundeb dwy flynedd i’r ymgeisydd llwyddiannus, meddai’r sianel “gydag opsiwn i S4C ymestyn y cytundeb am flwyddyn ychwanegol.”

‘Gwasanaeth di-dor’

“Bydd yr awr rhwng 7pm a 8pm yn creu’r teimlad o wasanaeth di-dor i’r gwylwyr,” meddai’r sianel yn y ddogfen dendr wrth sôn am y rhaglen gylchgrawn nosweithiol.

“Bydd yn cynnwys y brif raglen newyddion, y rhaglen gylchgrawn a bwletinau newyddion byr a thywydd, yn ogystal ag elfennau hyrwyddo gweddill rhaglenni’r noson, wedi eu gweu i mewn i’r slot. Bydd y Cylchgrawn yn cael ei ddarlledu’n nosweithiol o nos Lun i nos Iau,” meddai S4C yn y ddogfen dendr.

Ar hyn o bryd, caiff Wedi 7 ei darlledu am 7pm gyda rhaglen newyddion hanner awr yn dilyn am 7.30pm.

“Rydym yn cynnal trafodaethau rheolaidd gydag S4C ynglŷn â’n cynlluniau darpariaeth newyddion ar gyfer 2012-13,” meddai llefarydd ar ran BBC Cymru wrth Golwg360.

Y rhaglen Gylchgrawn

Dyma fanylion y rhaglen gylchgrawn yn y  ddogfen dendr

19:00 – 19:10 Penawdau Newyddion byr, Tywydd, rhan gyntaf Cylchgrawn i hyrwyddo cynnwys y rhaglen nes ymlaen, a chynnwys gweddill amserlen y Sianel am y noson.

19:30 – 19:55 Y Rhaglen Gylchgrawn

“Cyfres adloniadol fydd y Cylchgrawn. Rydym yn awyddus iddi osgoi dyblygu’r agenda newyddion a chynnwys ein cyfresi diwylliant,” meddai’r sianel cyn dweud mae’r  gyfres yma fydd yn darparu’r “rhan fwyaf o elfennau hamdden y Sianel.”

“Bydd lle i drin unrhyw storiau cyfredol sy’n destun trafod ymysg y gwylwyr ond gyda’r pwyslais ar storiau ysgafn poblogaidd adloniadol. Bydd pwysau mawr ar y rhaglen hon i ddenu cynulleidfa fydd yn aros gydag S4C am weddill y noson ac i estyn allan i ddenu’r canran o wylwyr nad sy’n gwylio’r sianel ar hyn o bryd,” meddai’r sianel.

Mae’r sianel hefyd yn dymuno i’r Cylchgrawn nosweithiol ddarlledu o’r Prif Ddigwyddiadau yng nghalendr blynyddol S4C sef Eisteddfod yr Urdd, Y Sioe Frenhinol a’r Eisteddfod Genedlaethol.