Mae ymosodwrDerby County a Chymru wedi pledio’n euog i yfed y gyrru gerbron llys heddiw (dydd Mawrth, Hydref 15).

Fe gafodd Tom Lawrence a’i gyd-chwaraewr, Mason Bennett, eu harestio ar ôl gwrthdrawiad ar ffordd yr A6 ger Derby ar Fedi 24.

Mae’r ddau chwaraewr wedi cyfaddef eu bod yn euog o yfed a gyrru a methu â stopio wedi’r gwrthdrawiad.

Gallai’r ddau chwaraewr dreulio amser yn y carchar, yn ôl y barnwr.