Mae’r Bòrd na Gàidhlig (Bwrdd yr Iaith Aeleg yn yr Alban) wedi lansio ymgyrch newydd i annog siaradwyr Gaeleg i roi gwybod i bobol eu bod yn gallu siarad yr iaith.

Mae’r ymgyrch wedi ei hysbrydoli gan y cynllun ‘Iaith Gwaith’ yng Nghymru, sy’n annog siaradwyr Cymraeg i wisgo’r swigen oren i ddangos i gwsmeriaid eu bod yn gallu siarad Cymraeg.

Mae siaradwyr a dysgwyr Gaeleg yn cael eu hannog i ddefnyddio’r hashnod #cleachdi – neu #useit – gyda’r hashnod #gaidhlig (sef Gaeleg) wrth siarad gyda’i gilydd – ar gyfryngau cymdeithasol, e-bost neu wefannau.

Maen nhw hefyd yn cael eu hannog i wisgo cortyn gwddf, bathodyn neu sticer gyda swigen siarad gwyrddlas arni, i ddangos i’r byd eu bod yn falch o allu siarad yr iaith.

“Rydyn ni’n falch iawn o fod yn lansio’r cynllun hwn yn ystod ein digwyddiad cenedlaethol Gaeleg, y Royal Mòd,” meddai Shona MacLennan, Prif Weithredwr y Bòrd na Gàidhlig.

“Mae mwy a mwy o bobol eisiau defnyddio a dysgu’r Aeleg ac mae’r cynllun hwn yn ffordd hawdd iawn o annog pobol i ddefnyddio’r Aeleg mewn mwy o lefydd. Mae’n wych ein bod yn gallu edrych ar sut mae ein cyd-Geltaid yn hyrwyddo eu iaith a dilyn eu harweiniad hwy gyda’r ymgyrch yma.

“Byddwn ni yn sicr yn y Bòrd na Gàidhlig yn falch iawn o ymuno yn yr ymgyrch hon i ddangos ein balchder o allu siarad yr iaith ac adnabod pobol eraill all ei siarad.”